oedd arwyddair Beriah Evans. Yn hynny yr oedd ef a David Edwards yn yr eithafion i'w gilydd.
Beth bynnag am hynny, brwydr ag amgylchiadau a fu ei dymor yn Y Genedl. Fel y dywedwyd, y mae'n bosibl i'r cwmni newydd gychwyn gyda rhy ychydig o gyfalaf ar gyfer yr holl ymgymeriadau; tuedd gwleidyddion sydd yn awyddus am sicrhau cefnogaeth papur newydd ydyw edrych yn unig ar hynny ac anwybyddu neu anghofio am y mil a mwy o bethau eraill y mae yn rhaid eu cael, ac efallai fod Lloyd George wedi gwneud hynny. Ni wyddai ddim, y mae'n sicr, am ochr dechnegol cyhoeddi papur. Cwynai'r cyfarwyddwyr nad oedd yr aelodau Seneddol a oedd wedi symbylu'r mudiad ar y cychwyn yn rhoddi'r gefnogaeth ariannol y gobeithid ei chael, ond y mae'n ddigon posibl fod y cyfarwyddwyr, a oedd o dan y baich, a'r aelodau Seneddol yn edrych ar bethau o gyfeiriadau gwahanol. Ymladdodd Beriah Evans yn ddewr a diflino i gadw'r llong i nofio; y mae ei ymdrech yn atgofio dyn am hanes ymdrech Moberly Bell gyda'r Times.
Y diwedd fu iddo ymddiswyddo. Honnid mewn un lle mai am resymau enwadol y gwnaeth hynny; mewn geiriau eraill, fod rhagfarn enwadol yn ei erbyn wedi gwneud ei le yn anghysurus. Ond dywedodd ef ei hun na bu hynny yn elfen o gwbl yn ei berthynas â bwrdd y cyfarwyddwyr. Yn ôl a glywais i gan rai a fu yn cydweithio ag ef yn swyddfa'r Genedl, ar yr ochr fasnachol ac ar yr ochr olygyddol, y safle ariannol anodd oedd y rheswm, ac i'r sawl a ŵyr am beth felly nid yw'n rhyfedd yn y byd fod Beriah Evans wedi blino ar yr ymdrech ac yn falch o gael ei draed yn rhydd. Bu papurau'r Genedl yn eiddo i fwy nag un cwmni arall ar ôl ei amser ef, a daeth adeg pan fyddai yntau yn ysgrifennu cryn lawer iddynt.