lawer iawn o bethau i lawer iawn o bapurau a chyhoeddiadau. Yn y byd newyddiadurol y mae traddodiad am is-olygydd a fu yn gweithio mewn gwahanol swyddfeydd o Inverness i Truro ac a welodd gopi Beriah ymhob un, ond rhan o'r apocryffa newyddiadurol ydyw'r stori honno, er ei bod yn dangos y fath syniad a oedd amdano. Taerai ef ei hun weithiau fod y newyddiadurwr fel bargyfreithiwr, ac y dylai ddadlau ar yr ochr y gelwid arno i ddadlau arni. Twyll ymresymiad oedd hynny, yn fy marn i, a chredaf mai mewn ysmaldod y byddai yntau yn ei defnyddio. Yr oedd ganddo argyhoeddiad cryf ar rai pethau. Ei brif wendid fel newyddiadurwr oedd bod yn rhy amleiriog a'i duedd i wneud melin a phandy o bethau digon dibwys weithiau.
Ar ddiwedd ei oes bu yn golygu'r Tyst, papur wythnosol yr Annibynwyr, ac yn Gofiadur yr Orsedd wedi marw Eifionydd. Tybiwn weithiau ei fod yn credu yn hynafiaeth yr Orsedd; galwai hi yn "Brifysgol y Werin." Gwnaeth lawer i ddiwygio ei threfniadau a'i seremonïau, ond ni chafodd ddigon o amser i wneud cymaint o'i ôl arni ag a adawsai pe buasai wedi cael ei gyfle ynghynt. Fel golygydd Y Tyst dangosodd lawer o'i hen ynni a'r hen annibyniaeth nodweddiadol; cychwynodd atodlen lenyddol ac yr oedd ganddo gyfoeth o fwriadau a syniadau, fel arfer, ond digiodd rhai wrtho am feirniadu rhai personau a threfniadau. Nid wyf yn credu fod hynny yn effeithio fawr arno ef. Unwaith, pan oeddwn yn golygu'r Genedl, digwyddais ddweud wrtho y byddwn weithiau yn amau fy marn fy hun. "Y mae'n rhaid i chwi beidio gwneud hynny yn y gadair yna," meddai yn ei ddull pendant. "Y mae'n rhaid i olygydd fod yn sicr yn ei feddwl ei hun." Ni welais i yr un arwydd erioed nad oedd ef felly. Ni thybiaf iddo fod yn boblogaidd ar unrhyw adeg; ychydig o swyn oedd yn ei ddull. Ond nid oedd amheuaeth am ei allu a'i ynni, ac yr oedd yn amhosibl peidio â pharchu