ei ddiwydrwydd mawr. Ni bu erioed yn gryf ei iechyd, ond yr oedd yn feistr didostur arno ei hun ac ni pheidiai â gweithio hyd yn oed pan fyddai yn wael a churiedig iawn.
Nid oes iddo le ymhlith llenorion Cymru; nid yw hyd yn oed ei ddramâu yn debyg o fyw. Dramâu hanesyddol ydynt, ac yn fy marn i yr oedd eu hawdur yn gwbl amddifad o'r synnwyr hanesyddol. Prin iawn oedd ei gydymdeimlad â mudiadau llenyddol newydd ei gyfnod diweddaraf ef; y mae'n amheus gennyf a drafferthai i ddarllen gwaith pobl fel Gwynn Jones a W. J. Gruffydd. Ychydig a wyddai am yr hen lenyddiaeth Gymraeg, ac yr oedd yn anodd gwybod beth oedd cylch ei ddarllen. Digwyddiadau'r dydd oedd ei bethau ef, a'i gefndir oedd bywyd y De pan oedd yn ddyn ieuanc. Y mae iddo ei le diogel yn hanes newyddiaduraeth Cymru, a'i le hefyd yng nghof y bobl oedd yn ei adnabod, canys yr oedd yn bersonoliaeth. Ond faint a gofir amdano pan fyddwn ni, y bobl sydd yn ei gofio, wedi mynd?