chafodd dderbyniad mawr. Bu yn darlithio ar ei brofiadau rhyfedd fwy nag unwaith, ac fel "Hwn a Hwn y soldiar" y cyfeirid ato ymhen blynyddoedd wedi iddo fyned yn ôl at ei waith ar y ffermydd. Dyna agosrwydd mwyaf rhyfel atom ni ar ddechrau'r ganrif, a phrin y tybiai neb y gwelid ef yn dyfod yn nes. Heddwch oedd i deyrnasu; cynnydd oedd yn rheoli'r oes; yr oedd y ddynoliaeth yn dringo at berffeithrwydd. Darllenem am ormes a chreulonderau yr hen oesau, gan ddiolch am y byd braf yr oeddym ni yn byw ynddo, byd a rhyddid gwladol a chrefyddol yn teyrnasu ynddo ac i deyrnasu.
Yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y byd hwnnw, ond fod ar rai ohonynt eisiau tipyn o welliannau gwleidyddol a chymdeithasol, addysg rydd, er enghraifft, dadsefydlu yr Eglwys, sicrwydd daliadaeth i amaethwyr, ac efallai, er mai breuddwyd oedd hwnnw, pensiwn i hen bobl. Gwyddem nad oedd popeth yn berffaith, ond yr oedd pethau yn bur dda ar y cyfan a meddem hyder disigl yn y dyfodol. Dyna argraffiadau un a oedd yn ieuanc ar y pryd; yr oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed pan dorrodd rhyfel De Affrica allan, ac yr wyf yn bur sicr, wrth edrych yn ôl, mai sicrwydd tawel oedd nodwedd amlwg meddwl pobl mewn oed yn y cyfnod hwnnw. Yr oedd y stormydd mawr, yr erlid, y lladd, y poenydio, yr anrheithio, yn bethau a oedd yn perthyn i oesau pell yn ôl. Nid oedd rhyddid mewn perygl o gwbl ag eithrio rhyddid ambell ffarmwr a fyddai yn dal ei dir dan feistr tir dylach na'r cyffredin.
Yn raddol ein dadrithiwyd. Hyd yn oed pan ddaeth rhyfel 1914 ar ein gwarthaf yn sydyn,—yn gwbl annisgwyl i'r rhan fwyaf ohonom,—nid oedd neb ohonom yn breuddwydio fod sylfeini y gwareiddiad y magwyd ni ynddo yn malurio. Ni freuddwydiodd hyd yn oed y craffaf ei welediad am yr ymyriadau â rhyddid, am y cyfyngiadau ar hawliau y person