Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unigol, am yr honiadau am uchafiaeth ac unbennaeth y Wladwriaeth, am y dibrisio oer ar yr enaid unigol, a oedd i ddyfod fel nodweddion y cyfnod newydd yn Ewrob, yn y byd, yn ein gwlad ni ein hunain. Yn raddol, yn raddol iawn, y sylweddolwyd fod yr hen derfynau yn symud, fod dull newydd o feddwl ac o weithredu yn dyfod yn gyffredin ymhob cylch. Daeth y sioc gyntaf i lawer pan welsant rai o arweinwyr crefyddol y dydd yn troi eu cefnau, i bob golwg, ar egwyddorion y tybid eu bod yn eu proffesu ar hyd eu hoes.

Y mae'n debyg mai honno oedd yr ergyd waethaf oll, gweled crefyddwyr yn myned trosodd i wersyll grym a rhyfel ac ymyrraeth â hawliau'r unigol. Gwn o'r gorau fod gan y bobl a gymerodd yr agwedd honno eu dadl a'u hochr. Gwn fod llawer ohonynt yn ddynion da iawn ac yn ddynion cywir iawn, ond nid dyna'r pwynt. Yr ergyd oedd gweled pobl felly yn medru amddiffyn pethau a oedd, ar yr wyneb beth bynnag, mor hollol groes i'r pethau y tybid a broffesid ganddynt gynt. Yn adeg y Black and Tans yn Iwerddon galwodd ychydig o weinidogion, y diweddar Brifathro Thomas Rees, y diweddar Barch. Thomas Shankland, a'r diweddar Barch. Howell Harris Hughes, Llandudno, neu Fangor y pryd hynny, yn eu plith, gyfarfod protest yng Nghaernarfon a gofynnwyd i'r eglwysi ei gyhoeddi ac anfon cynrychiolwyr.

Yr oedd rhai o bobl orau Prydain a'r byd yn protestio yn erbyn yr anfadwaith yn Iwerddon, ond gwrthododd un, beth bynnag, o eglwysi Caernarfon gyhoeddi'r cyfarfod a gwrthododd rhai o'r lleill anfon cynrychiolwyr, ar y tir "na ddylai'r eglwys ymyrryd â gwleidyddiaeth", darganfyddiad newydd ymhlith Ymneilltuwyr. Y gwir reswm oedd mai Lloyd George oedd y Prif Weinidog ar y pryd ac yr oedd peidio digio Lloyd George yn bwysicach na wynebu ffeithiau. Yr oedd yr un peth yn nodweddu bywyd Cymru—a'r gwledydd, wrth gwrs—mewn llawer cyfeiriad yn y cyfnod hwnnw, cyfnod o