ddirywiad prysur a thrychinebus. Ac yr oedd llawer o bobl ieuanc a chymharol ieuanc mewn cyfyng-gyngor ac ing meddwl ynghylch y peth. Prin ddeng mlynedd oedd wedi mynd heibio er pan ysgubodd y diwygiad drwy drefi a chymoedd Cymru. Erbyn 1918 yr oedd y Bregeth ar y Mynydd yn beth i'w hesbonio ymaith a'r gwrthwynebwyr cydwybodol yn bobl i'w dirmygu. Dywedir wrthym fod rhai ohonynt yn ddirmygus ac nad oedd eu cred yn ddiffuant, ond nid dyna'r pwynt. Y peth poenus oedd fod y dirmyg a ddangosid yn aml yn ddirmyg at gydwybod fel y cyfryw os oedd honno yn sefyll yn erbyn barn y mwyafrif ar y pryd. Yr oedd pobl ffuantus ymhlith y gwrthwynebwyr cydwybodol, y mae'n ddigon tebyg. Yr oedd pobl fel George Davies yn eu mysg hefyd a gadawyd iddo yntau fynd i garchar heb fod Cymru yn cynhyrfu dim.
Un o'r dynion ieuanc a ddaliwyd gan y storm oedd Llew G. Williams. Y mae'n debyg iawn nad yw ei enw yn adnabyddus i fawr neb o ddarllenwyr yr ysgrif hon erbyn heddiw, ond hoffwn ddywedyd ar y dechrau mai Llew G. Williams oedd un o'r dynion galluocaf a chywiraf a gyfarfum erioed. Ni welodd Cymru ef yn ystod ei oes fer, ond gwyddai'r sawl a oedd ei adnabod ei fod yn un o wŷr galluocaf Cymru yn ei ddydd. Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd, brodor o Benygroes, Dyffryn Nantlle. Bu yn fugail yn Ysbyty Ystwyth ac yn y Barri, a gorffennodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn Llundain. Bregus iawn a fu ei iechyd ar hyd ei oes. Bu'n gorwedd yn hir pan yn ddyn ieuanc, ac ar un adeg tybid nad oedd adferiad yn bosibl. Hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gefn ato yn weddol, gwanllyd iawn oedd ac yr oedd yn syndod i'w gyfeillion iddo gyflawni cymaint o waith. Pan ddaeth y diwedd, yn 1926, nid rhyfeddu fod Llew wedi marw a wnaem eithr rhyfeddu iddo allu byw cyhyd.
Yr oedd ei olwg yn dweud mai gwan iawn oedd y babell, er