na fynnai ef i neb ond ei gyfeillion dybio hynny. Yr oedd yn weddol dal ac yn boenus o denau, gorff ac wyneb; yr oedd ei lygaid dwfn, ei wallt du, syth, a'i ruddiau yn hollol amddifad Weithiau o unrhyw liw, yn tynnu eich sylw ar unwaith. byddai ei beswch dwfn, poenus, yn ennyn eich tosturi er y byddech yn gofalu am gelu hynny rhagddo ef. Ni ofynnodd am dosturi neb erioed a gwnaeth ei orau i anwybyddu ei iechyd brau. Yn wir, ni chymerai ofal rhesymol ohono ei hun aml. Cofiaf amdano yn dyfod i edrych amdanaf. Arhosodd i de a buom yn eistedd yn hir, yn trafod y peth yma a'r peth arall. Daeth amser swper a daeth amser y bus olaf, ond yr oedd gennym lawer o bethau i'w penderfynu o hyd a chymhellais ef i aros dros y nos. Yr oedd yn tynnu at ddau o'r gloch y bore pan ellais ei berswadio i fyned i'w wely, a mynnai gael llyfr i fyned gydag ef. Erbyn y bore yr oedd wedi darllen y rhan fwyaf o'r llyfr. Ni ddywedodd hynny, ond y mae'n rhaid nad oedd wedi cysgu ond y nesaf peth i ddim.
Blinid ei gyfeillion gan y dibristod yma, ac yr oedd yntau, mewn gwirionedd, yn gwneud cam ag ef ei hun. Yn 1922 bu gan y Rhyddfrydwyr Rhydd gyfarfod mawr yn Wrecsam a daeth Asquith yno. Yr oedd yno eraill, gwŷr o ddylanwad yn y cylch gwleidyddol yr adeg honno, pobl megis y diweddar Arglwydd Sheffield, Ellis Davies ac eraill. Trefnwyd fod Llew i gynnig penderfyniad yng nghynhadledd y pnawn. Yr oedd wedi dechrau ar ei yrfa wleidyddol erbyn hynny, a disgwyliem lawer ganddo. Teimlid hefyd ei fod yn cael cyfle i'w gyflwyno ei hun i sylw rhai arweinwyr. Daeth yntau i'r gynhadledd yn hwyr, wedi dal tren diweddar o Lundain, ac heb gael bwyd er y bore. Ni allai neb, heb son am ŵr gwanllyd fel ef, wneud cyfiawnder ag ef ei hun o dan amgylchiadau felly, a siomedig oedd ei araith. Yr oedd ei iechyd, y mae'n debyg, yn cyfrif am lawer o'r pethau yma, ond y mae'n rhaid cyfaddef y byddai weithiau yn trethu cryn lawer ar amynedd