ei gyfeillion am y teimlent nad oedd yn gwneud chwarae teg ag ef ei hun.
Safodd yn erbyn y rhyfel o'r cychwyn. Yr oedd ei safbwynt yn syml. Ni chredai fod rhyfel i'w gysoni â chrefydd Crist, a dywedodd hynny, gyda'r canlyniadau y gallesid eu disgwyl. Yr oedd llawer o bobl hollol gywir yn credu fod y rhyfel yn gyfiawn; yr oedd llawer iawn o bobl heb fod mor gywir yn credu mai peth annoeth oedd dweud dim yn groes i'r gred, ac yr oeddynt hwy, yn anad neb, yn ffyrnig yn erbyn y neb a feiddiai wneud hynny. Ni wn i pa beth a ddywedai Llew yn ei bregethau, ond gwn iddo deimlo yn anesmwyth yn lled fuan. Glynai ei eglwys wrtho, ond yr oedd yntau yn ei deimlo ei hun yn pellhau oddiwrth gyfundrefnau crefyddol ei ddydd. Siglwyd rhai pwyntiau yn ei gred, ac y mae'n debyg iddo ddywedyd hynny. Ni phregethai Llew Williams ond a gredai. Y gwir oedd fod credo llawer iawn wedi ei siglo yr adeg honno, ond nid oedd pawb yn ddigon gonest i addef hynny.
Ymneilltuodd o'r fugeiliaeth ond nid o'r weinidogaeth. Credaf y buasai peidio pregethu yn loes iddo; credai rai pethau, y pethau sylfaenol yn ei farn ef, yn angerddol ac yr oedd arno eisiau cael gan bobl eraill eu credu. Aeth i Lundain, lle bu am ysbaid yn ohebydd Llundain i'r Faner ac yn gwneud gwaith newyddiadurol arall. Yn y cyfnod hwnnw bu'n ysgrifennu "Llythyr Llundain" i mi i'r Genedl. Yr oedd wedi ysgrifennu cryn lawer i gyhoeddiadau eraill. Bu yn un o "Facwyiaid" Mr. Shankland, y grŵp bychan o efrydwyr a ddechreuodd ysgrifennu i'r papurau Cymraeg o dan ffug-enwau a Shankland yn anfon eu hysgrifau i'r wasg, gan wrthod dywedyd wrth y golygyddion pwy oeddynt. Cofiaf i mi fod mewn dadl a Shankland ar y pen hwnnw a chyhoeddi rhai o ysgrifau Llew ar ôl cael y wybodaeth angenrheidiol, os iawn y cofiaf. Ysgrifennodd gryn lawer i'r Welsh Outlook hefyd. Yr oedd yn feirniad llenyddol craff, y mae ei ysgrifau