yn y Welsh Outlook ar Daniel Owen cystal a dim a wnaed ar y gŵr hwnnw. Ond erbyn yr adeg yr oedd yn ysgrifennu i'r Genedl credaf fod ei ddiddordeb yn troi fwy-fwy i gyfeiriad gwleidyddiaeth.
Bu'n ymgeisydd Seneddol unwaith, yng Ngorllewin sir Ddinbych, yn 1922. Safodd fel Rhyddfrydwr Rhydd, ond yr oedd dau ymgeisydd, Rhyddfrydwr a gefnogai'r Coalisiwn, a Thori, yn ei erbyn, ac nid oedd ganddo siawns, yn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed pe buasai yn ymgeisydd da. Ac nid oedd yn ymgeisydd da. Yr oedd yn siarad yn dda, ond yr oedd ei feddwl yn rhy finiog ac yn rhy ddadansoddol iddo fedru gwneud apêl gyffredinol lwyddiannus, ac yr oedd at hynny bron yn gwbl amddifad o'r ddawn i gofio pwy oedd yn bwysig a chadw ei bapurau a'i ymrwymiadau mewn trefn. Cafodd o fewn ychydig i ddwy fil o bleidleisiau; cafodd ei wrthymgeisydd Rhyddfrydig yn agos i dair mil ar ddeg, a'r Tori ychydig dros naw mil. Ni ddaeth Llew Williams i'r maes wedyn a theimlai ei gyfeillion mai gwell iddo oedd peidio. Mewn cyfeiriad arall yr oedd ei nerth ef. Yn ddiweddarach ymunodd â Phlaid Llafur, ond y mae'n amheus gennyf a fuasai yn ddedwydd yn hualau unrhyw blaid wleidyddol.
Credaf mai ef oedd y newyddiadurwr gwleidyddol gorau yng Nghymru yn ei ddydd. Bu yn ysgrifennu "Llythyr Llundain" i'r Genedl Gymreig am rai blynyddoedd, ac ni phetrusaf ddweud fod ei waith o wythnos i wythnos ymhlith y pethau gorau a oedd yn ymddangos, nid yn y wasg Gymraeg yn unig ond yn y wasg Saesneg hefyd. Yr oedd yn graff i glywed ac i dynnu casgliadau oddiwrth yr hyn a glywai, yr oedd ganddo argyhoeddiadau pendant, gwybodaeth bur eang, a dawn i ysgrifennu yn glir ac i'r pwynt. Weithiau tybiwn y byddai ei iaith yn rhy blaen ac yn ffinio ar fod yn beryglus. Y pryd hynny byddwn yn newid neu yn gadael