allan, ac ar y cyfan byddai yntau yn bodloni. Eithr gwingai weithiau, fel y gwna y rhan fwyaf o bobl.
Wrth droi dros ei lythyrau ataf, gwelaf un brotest felly. Dywed nad oedd ganddo "ronyn o stumog gweled yr ysgrif wedi ei thorfynyglu, fel yr awgrymwch, oblegid ni byddai felly yn wir,—fel yr ymddengys y gwir i mi ar y mater, ac nid oes gan neb ohonom ond dywedyd y gwir fel y gwel ef ei hun hwnnw. . . . Darllenais hi yn fanwl ddwywaith neithiwr, ac nid oes ynddi un gosodiad nad wyf yn barod i gymryd y cyfrifoldeb amdano, ac i'w gyhoeddi eto pan gaffwyf hamdden a chyfleustra i hynny. Ond ni fynnwn i unrhyw anfri a ddichon fod ynglŷn wrth ei gyhoeddi ddisgyn i ran neb arall". Nid wyf yn cofio erbyn hyn beth oedd o dan sylw ar y pryd, ond byddai yn ysgrifennu yn gryf iawn ar brydiau, ac y mae gan olygydd ddyletswydd i feddwl am ei bapur. Gwyddai yntau hynny, fel y dengys y frawddeg olaf a ddyfynnwyd. Ni thybiodd neb erioed iddo wneud unrhyw osodiad nad oedd yn barod i gymryd y cyfrifoldeb amdano; yr oedd yn onest ac yn gydwybodol i'r carn. Deuai hynny yn amlwg yn ei lythyrau ataf; digiai weithiau, wrthyf fi neu wrth y papur, a dywedai hynny yn bur finiog, ond ni byddai yn dal dig ac yr oedd yn llawn cydymdeimlad ag anawsterau golygydd mewn cyfnod anodd. Trysoraf y llythyr olaf a gefais oddiwrtho, llythyr oddiar wely cystudd, a hwnnw yn gystudd hir. Dyma un frawddeg: "Yr wyf yn hollol sicr fod rhywbeth yn greadigol a thragwyddol ymhob gwaith y byddom yn rhoddi ein gorau ynddo, ac yr ydych chwi yn gwneud gwaith felly yn a thrwy'r Genedl bob wythnos. . . . Un o'm hoff adnodau i yn y Testament Newydd ydyw 'Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.' Ac adnod wir iawn ydyw." Yr oedd y diwedd yn bur agos yn ei hanes ef ar y pryd.
Yr oedd llawer o frawddegau cofiadwy yn ei lythyrau. "A oes rhywbeth yn bwysig", meddai mewn llythyr yn 1916, "o'i