Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymharu a'r tawel hedd sy'n dod i ddyn o ateb cydwybod onest gerbron Duw"? "Fel chwithau", meddai yn 1917, pan oedd pethau waethaf, "yr wyf mewn anobaith parthed peirianwaith yr eglwys. Y mae miloedd lawer o eneidiau cywir ynddi ond y mae ei llywodraeth yng ngafael y Philistiaid. Ac y maent yn ofnadwy gadarn yn eu noddfeydd". Parhaodd y rhyfel a'i ddifrod i bwyso ar ei feddwl, a theimlai gymaint oddiwrth bwysau'r caledwch a'r diffyg teimlad a oedd yn y wlad hon ag oddiwrth greulondeb y rhyfel.

"Cymysg iawn yw'm profiad yn y drycinoedd yma", meddai mewn llythyr ddechrau 1918, "ac y mae ymadrodd lyfr y Salmau yn dynodi fy ysbryd cystal a dim: 'Diffygiaswn pe na chredaswn weled daioni'r Arglwydd yn nhir y rhai byw.' Y mae cynifer o bethau yn digwydd a'u tuedd i ddigalonni dyn. Oedir gobaith o hyd, a lles câ hynny'r galon ar brydiau, ac y mae dyn yn gorfod brwydro heb gymorth dynion y buasid yn disgwyl, efallai, iddynt fod yn symol gadarn yn eu carn. Ond y mae hudoliaeth golud a gwanc am swyddau a hunanles yn profi yn andwyol i dyfiant pethau gorau bywyd o hyd".

"Yma neu oddiyma", medd mewn llythyr tua'r un adeg, gwae fi oni phregethaf yr efengyl' er mor amhoblogaidd yw honno heddiw—yn enwedig yn yr eglwys. Hwyrach y daw plygain ynghynt nag yr ofnwn."

Yn y gwanwyn yn 1918 ymddiswyddodd o'i ofalaeth fïugeiliol yn y Barri, er i'r eglwys geisio ei berswadio i aros. Ym Medi y flwyddyn honno cefais lythyr oddiwrtho. Yn hwnnw dywed:—

"Rhaid i mi bellach rodio llwybrau eraill. Duw yn unig a ŵyr pa lwybrau a fydd y rheiny. Y mae'm holl galon i