Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y weinidogaeth a'i gwaith—ond rhoddi ystyr ddigon eang i'r gwaith. Teimlaf er hynny fod gagendor rhwng fy safle a'm gwelediad i ar agos bob pwnc, diwinyddol, cymdeithasol a gwleidyddol, â safle swyddogol y Cyfundeb fel y gwelir hi yn arweinwyr y Corff, ac yn y rhan fwyaf o lawer o'i aelodau. Rhoddant bwys anferth ar rinweddau gwneuthur,—ffyddlondeb i'r Cyfundeb yn fwy peth ganddynt na ffyddlondeb i'r Iesu a'i ddysg—a rhyw ffug urddas mursenaidd a gwag, gan anwybyddu yn eu cred a'u harfer bethau trymaf y gyfraith, barn a thrugaredd a ffydd. Pe gwelwn ryw lwybr yn agor a'm galluogai i wneuthur fy nhipyn gwaith yn y byd yma heb i mi fod mewn cysylltiad swyddogol â'r weinidogaeth mi a'i rhodiwn heb betruso dim. Gwn fod angenrhaid wedi ei osod arnaf i bregethu'm gweledigaeth a gwae fi oni wnelwyf hynny, ond nid wyf yn meddwl fod gofalu am eglwys yn yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair hwnnw yn un rhwymedigaeth arnaf."

Effaith y rhyfel sydd i'w weled yn amlwg yn y llythyrau hyn; adlewyrchant y siom a'r benbleth a ddaeth i ran llawer ohonom yn y cyfnod hwnnw pan deimlem fod y sylfeini yr ymddiriedwyd ynddynt yn siglo, neu, yn hytrach, nad oedd gan lawer o bobl sylfeini o gwbl.

Ond yn awr ac yn y man deuai nodyn personol arall i'r llythyrau. Yn nechrau 1920 yr oedd Llew Williams yn Llundain, ar ôl bod yn aros am ychydig yn y wlad.

"Gallaf fwynhau tawelwch yn ardderchog am wythnos", meddai, "ond wedi i'r nerth ddechrau dychwelyd ac i'r galon ddechrau curo daw awydd am fod yngafael a'm gwaith, a rhaid bwrw iddi wedyn hyd oni ddelo lludded a gwendid drachefn i beri i mi ymbwyllo. Pa beth ddelai ohonom ni mewn difrif—ni bobl afiach yn enwedig—oni buasai am waith? Y mae cyn gased gennyf fi ddechrau