arno â neb, ond unwaith y caf ddigon o blwc i'w gychwyn, yr wyf gymaint wrth fy modd ag y gall dyn ddisgwyl bod mewn byd fel hwn. Onibai fy nghred ddiysgog fod Duw y tu ôl i dryblith rhyfedd y byd yma a'i fod ef trwy orau dyn yn ceisio dwyn bwriadau daionus i ben rywbryd, a chariad hefyd at fywyd, mi gredaf mai gwaith lled hawdd i mi fuasai torri'm calon a bwrw fy hun i ganol tawelwch y Dafwys yma. Pan fydd pryder neu ofn yn fy mygwth digon i mi fydd mynd allan i edrych ar y ser, neu redeg am dro i'r llanerchau llonydd sydd o fewn hanner awr i mi o'r fan yma a dof yn ôl fel ewig ysgafndroed."
Mewn llythyr arall dywedodd: "Y mae rhyw gysur ynghanol tywyllwch a gwallgofrwydd y byd yma mewn cael bod o blaid ' pa bethau bynnag sy' wir' a golau a synhwyrol er i ni fod yn y lleiafrif am ein hoes. Llawer o hwyl a gaffoch i ddal ati yn y flwyddyn newydd." Ar un olwg yr oedd yn rhyfedd gweled gŵr oedd yn dioddef cymaint yn ei gorff ac mor deimladwy yn ei feddwl i ing y byd yn dywedyd, yn yr un llythyr: "Onid bendith amhrisiadwy ydyw dedwyddwch ysbryd cyhyd ag y parhao? Gwn, wrth gwrs, am brudd-der digon dwys yn fynych, ond i'r Ysbryd mawr y bo'r diolch, dedwyddyd sydd yn normal i'm hysbryd i."
Parodd darllen y cyfeiriad at y sêr yn y darn a ddyfynnwyd i mi gofio am ddigwyddiad yn stesion Caernarfon. Yr oeddwn wedi myned i ddanfon Llew at y tren, ac, yn ôl fy arfer, wedi myned ag ef i'r stesion yn llawer rhy gynnar. Cerddem yn ôl a blaen ar hyd y platfform a dechreuodd ef son am lyfr R. Williams-Parry, Yr Haf a Cherddi Eraill, a oedd newydd ei gyhoeddi. Adroddodd y soned i Bantycelyn, a chofiaf byth am ei lais fel y dywedai y llinell "Fel lloer ddi-gartref rhwng lluosowgrwydd sêr". Yr oedd llenyddiaeth fawr yn apelio yn ddifeth ato; yr oedd yn feirniad gwych a chredaf y buasai