Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yntau wedi cynhyrchu llenyddiaeth fawr pe cawsai hamdden, ar waethaf ei iechyd bregus. Fel yr oedd pethau, yr oedd yn rhaid iddo wneud caledwaith newyddiadurol o ddydd i ddydd er mwyn bywoliaeth. Ni chwynodd; wynebodd y safle yn ddewr, daliodd ati hyd y diwedd trwy wendid mawr. Rhedodd yr yrfa a chadwodd y ffydd. Safodd yn ddiofn dros ei gred a daliodd y lamp yn olau mewn cyfnod tywyll iawn yng Nghymru. Bu yn bur i'r weledigaeth a roddwyd iddo, ac os adeiledir Cymru eto ar seiliau diogel gwneir hynny am fod dynion fel Llew G. Williams wedi cadw'r sylfeini rhag cael eu llwyr ddinistrio.