Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GEORGE DAVIES, 1880-1949

RHODDAF "George Davies' yn unig uwchben yr ysgrif hon.

Ei enw llawn oedd George Maitland Lloyd Davies, ac ambell dro, yn ei flynyddoedd diwethaf, cyfeirid ato fel George M. Ll. Davies neu, yn fwy cywir, fel y Parchedig George M. Ll. Davies. Ond yr enw bob dydd, yr enw a oedd yn annwyl i filoedd o Gymry a phobl o genhedloedd eraill, oedd George Davies, ac fel George Davies y bwriadaf gyfeirio ato o hyn ymlaen.

Y tro cyntaf i mi ei gyfarfod oedd mewn Sasiwn, yn un o gyrddau cyhoeddus sasiwn Caernarfon yn rhywle tua 1916 neu 1917, nid wyf yn sicr o'r flwyddyn. Eisteddai tri ohonom yn yr un sêt, y Parch. Griffith Hughes, Caer (y pryd hynny), George Davies (nid oedd wedi myned i'r weinidogaeth eto) a minnau. Ar derfyn y cyfarfod gofynnodd George Davies, "A ddaru chi feddwl pwy oedd yn eistedd yn y sêt yna heno?" Atebais innau fy mod yn gwybod pwy oedd yno. "Ni ein tri," meddwn.

"Ie", meddai yntau, "ŵyr i Griffith Hughes, Edern, ŵyr i Edward Morgan, y Dyffryn, ac ŵyr i John Jones, Talsarn. Dyna i chi ddarn o draddodiad."

Sylweddolais ei fod yn falch o'i dras, ac yr oedd ganddo bob hawl i fod felly. Deallais hefyd ei fod yn falch o'r traddodiad y soniodd amdano, traddodiad pulpud a chrefydd Cymru. Ac yr oedd ef ei hun yn amlwg iawn yn rhan o'i draddodiad. Clywais hen bobl a fu'n gwrando ar John Jones, Talsarn, yn son am harddwch ei gorff a'i bryd, ac yr oedd yr harddwch hwnnw yn y teulu. Yr oedd ei fab, y Parch. David Lloyd Jones, yn ŵr nodedig o landeg, ac yr oedd yr un peth i'w weled mewn perthynasau pellach. Yr oedd John Jones a gwraig y Llyndu Isaf, Nant Gwynant, mam y diweddar