Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Roberts, Syr Thomas Roberts a Mrs. W. T. Williams, Caernarfon, yn gefnder a chyfnither, ac yr oedd y tri a enwyd yn nodedig am eu harddwch. Gwelais berthynasau eraill i'r teulu, pob un, yn ddynion ac yn ferched, yn osgeiddig o gorff a hardd o bryd, a'r rhan fwyaf yn meddu nodweddion meddwl pell uwchlaw'r cyffredin. Y mae rhywbeth mewn tras, dyweder a fynner, ac y mae'r hen ddywediad ei bod yn anodd dwyn dyn oddiar ei deulu yn ddigon gwir. Daw'r nodweddion i'r golwg, yn fwy neu lai amlwg, yn y naill genhedlaeth ar ôl y llall.

Yr oedd George Davies yn ŵr eithriadol yr olwg arno. Pan fu farw soniodd amryw o'r ysgrifau coffa am ei ymddangosiad aristocrataidd, ond ymddangosiad Talsarn oedd y disgrifiad cywir. Yr oedd yn dal ac yn osgeiddig, yn lân ei wynepryd a chanddo'r ddau lygad mawr gyda'r prydferthaf a welais erioed. Tynnai sylw mewn unrhyw dyrfa; clywais bobl na wyddent ddim amdano yn holi pwy ydoedd. Nid yw pendefigion yn edrych yn bendefigaidd bob amser, ond yr oedd George Davies yn edrych felly. Gweithio yn y chwarel ac ar y ffordd y bu John Jones, Talsarn, ar ddechrau ei yrfa, ond yr oedd yntau, fel aml un arall o gyffelyb amgylchiadau, yn olrhain ei drâs yn ôl i hen deulu pendefigaidd Cymreig. Y mae'n bosibl nad oes dim yn hynny; y mae aml i hen deulu felly wedi darfod mewn dinodedd cwbl haeddiannol. Ond y mae ochr arall, hefyd, a cheir ambell deulu yn parhau yn hir yng ngwasanaeth Cymru mewn rhyw gyfeiriad neu'i gilydd. Un o'r teuluoedd hynny oedd teulu George Davies.

Y peth arall a'ch trawai ynddo ar unwaith, heblaw ei harddwch, oedd ei gwrteisi. Nid oedd arlliw o fursendod yn agos ato; yr oedd mor naturiol a dirodres ag y gallai dyn fod. Tarddai ei gwrteisi yn uniongyrchol o'i barch i'w gyd-ddynion, a tharddai hwnnw drachefn o'i grefydd. Credaf fod hynny y tuhwnt i unrhyw amheuaeth. Clywir pobl yn sôn weithiau