Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am erwinder Piwritanaidd y tadau ac yn ymgroesi rhag yr hyn a alwent hwy yn "agosatrwydd" hyf. Ond tybed na welodd pawb ohonom a fagwyd yng Nghymru esiamplau o'r boneddigeiddrwydd a'r cwrteisi a geid mewn llawer o bobl mewn amgylchiadau bydol cyffredin iawn am fod eu crefydd wedi eu gwneud yn frenhinoedd ac yn offeiriaid? Parchent eu cyd-ddynion am eu bod yn ddynion ac yn eneidiau anfarwol. Yr oedd yr un peth yn George Davies, rhyw gwrteisi cynhenid, rhyw fwynder urddasol a ddylanwadodd ar rai y buasai yn anodd iawn i ddim arall eu cyffwrdd.

Y mae'n sicr fod hwnnw hefyd mewn rhan, beth bynnag, yn etifeddol. Unwaith erioed y gwelais ei fam, merch John Jones, a hynny yng nghapel Princes Road yn Lerpwl, yn un o gyfarfodydd mawr diwygiad Evan Roberts. Gŵyr y sawl sydd yn cofio am y diwygiad yn y blynyddoedd 1904 hyd 1906 fel y byddai ugeiniau yn y cyfarfodydd yn gweddïo, yn canu, neu yn adrodd adnodau a phrofiadau ar draws ei gilydd, ac yr oedd felly yn y cyfarfod hwnnw y noson honno. Dywedid llawer o bethau digon amrwd, fel y gallesid disgwyl, a hynny mewn geiriau a brawddegau pur afler yn aml, ond y tro hwn cyfododd gwraig yn fy ymyl a dechreuodd weddïo. Gwyddwn pan glywais yr ychydig frawddegau cyntaf fod yno rywbeth a rhywun eithriadol. Yr oedd yn hardd o bryd, yr osgo yn urddasol, y llais yn swynol, a'r geiriau a'r brawddegau yn brydferth ac yn gaboledig. "Merch John Jones, Talsarn", meddai rhywun yn fy nghlust. Ni bum yn siarad â hi ac ni welais hi na chynt na chwedyn, ond erys yr argraff a wnaeth arnaf yn yr ychydig eiliadau hynny yn fyw ar fy meddwl o hyd. A phan ddeuthum i adnabod George Davies gwelwn ei fod wedi etifeddu llawer o bersonoliaeth ei fam.

Yn ystod blynyddoedd blin rhyfel 1914-18 daeth enw George Davies yn amlwg iawn fel gwrthwynebydd cydwybodol i ryfel. Cofiaf Beriah Evans yn gofyn i mi beth a ddywedai