rhai o'r arweinwyr oedd yn pleidio'r rhyfel pan glywent fod ŵyr John Jones, Talsarn, yn myned i garchar oherwydd ei gydwybod. Hyd y cofiaf, ychydig iawn a ddywedodd neb ond ambell un fel Thomas Rees a Puleston Jones. Triniwyd George Davies ac aml un arall yn galed, ac y mae'n chwith meddwl fod rhai pobl yng Nghymru, a'r rhai hynny yn bobl yr oeddym wedi arfer edrych i fyny atynt, yn credu mai yn galed y dylid trin eu bath. Clywais George Davies yn sôn am ei brofiadau yng ngharchar ar law mân swyddogion trahaus; buaswn i wedi chwerwi am fy oes pe buasai pethau felly wedi digwydd i mi, eithr nid oedd chwerwder yn agos ato ef. Tybiwn y byddai weithiau hyd yn oed yn cael tipyn o ddifyrrwch wrth feddwl am yr amser. Nid oedd yn anghofio, ond yr oedd wedi maddau'r cwbl.
Yr oedd ei gywirdeb, ei gwrteisi a'i dduwioldeb diamheuol yn dylanwadu yn fawr ar y bobl orau yr oedd yn eu cyfarfod yr adeg honno. Nid ef a ddywedodd hyn wrthyf, ond credaf fod yr hanes yn wir; bu un gwleidydd Seisnig enwog yn ymliw yn hir ag ef, ond, wrth gwrs, heb lwyddo i'w droi fodfedd oddiar ei lwybr.
O'r diwedd dywedodd y gwleidydd: "Mr. Davies, credaf eich bod yn cyfeiliorni, ond yr ydych yn well dyn na mi". Yr oedd hwnnw yn ŵr bonheddig, ond nid oedd pawb y bu yn rhaid i George Davies ymwneud a hwy yn y cyfnod hwnnw felly, a dioddefodd lawer, heb gwyno na ffyrnigo. Yr oedd ei amynedd, ei ddawn,—pa air arall a ddefnyddir?—i faddau, a'i athrylith i weled y gorau ymhawb yn rhyfeddol iawn. Byddai yn trethu fy amynedd i ar y cymal olaf weithiau mynnai weled rhinweddau mewn pobl na fedrwn i weled rhinwedd o gwbl ynddynt, ac ai ymhell i lunio esgusion drostynt pan dueddwn i ddweud gyda Huw Morus,
Pan gaffwyf gynneddfau rhinweddau yn y rhai'n,
Afalau ga'i'n felus mewn dyrus lwyn drain.