Yr oedd yn rhaid i'r llwyn drain fod yn ddyrus iawn cyn y methai George Davies weled afalau yn tyfu ynddo yn rhywle. Yn wir, tueddaf i gredu mai'r unig ŵr y methai ef weled rhinwedd ynddo oedd George Davies. Nid hawdd ganddo oedd maddau iddo ef ei hun.
Yr oedd yn ddisgyblwr didrugaredd arno ei hun. Credai mai gwas oedd a bod yn rhaid iddo wneud gwaith yr Hwn a'i hanfonodd er i'r gwaith hwnnw drethu ei natur i'r eithaf. Dywedai hanes pethau felly wrthych yn hollol naturiol a syml. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod, tua'r adeg pan fu yn gweithio ar ffarm yn Llŷn, wedi gofyn ar ei liniau am gyfarwyddyd. Credai iddo gael gorchymyn i fyned a sefyll ar Faes Caernarfon a phregethu. "Wel, drapia unwaith!" meddai wrtho ei hun; yr oedd yn casáu'r syniad, fel y gallai pawb oedd yn ei adnabod ddeall. Gŵr llednais, yswil oedd wrth natur, ond teimlai fod ufudd-dod yn ddyletswydd, ac aeth. Er ei syndod, cafodd gynulleidfa a oedd yn ymddangos yn llawn cydymdeimlad, a gwrandawiad astud. Rhyfeddai ef at hyn, ond mewn gwirionedd nid oedd yn beth rhyfedd o gwbl. Yr oedd ei ymddangosiad a'i bersonoliaeth a'i gywirdeb yn ennill y bobl ymhob man.
Ni feddai huodledd ei daid na'i ewythr, David Lloyd Jones, Llandinam. Siaradai yn rhugl, gyda llais dymunol, ond nid wyf yn meddwl fod "tinc Talsarn" ganddo. Yr oedd honno i'w chlywed weithiau yn lleisiau aelodau eraill o'r teulu. Clywais y diweddar Syr Thomas Edwards Roberts, o Blas y Bryn, mab i gyfnither John Jones, yn siarad yn gyhoeddus unwaith; nid oedd dim byd neilltuol yn yr hyn a ddywedai ond yr oedd yr hyfrydlais ganddo yntau, ac yn sydyn ac annisgwyliadwy clywyd ef y tro hwnnw. Yr oedd gwefr yn y peth er i'r geiriau fod yn ddigon cyffredin. Ni chlywais yr hyfrydlais yn hollol gan George Davies, ond y mae'n sicr fod gan John Jones rywbeth heblaw'r dinc. Yr oedd ei