ymddangosiad a'i bersonoliaeth yntau yn ennill y bobl. Dyna a ddigwyddodd pan bregethodd dan y goeden—y mae hi yno eto, mi gredaf—sydd ar draws y ffordd i eglwys Llandeilo, i gynulleidfa a oedd yn ddigon difater os nad yn elyniaethus ar y dechrau, a'i hennill yn lân. Etifeddodd George Davies y swyn hwnnw; yr oedd yn ennill ei le heb yn wybod iddo ei hun yn rhinwedd ei gywirdeb a'i foneddigeiddrwydd.
Yn ystod ei brofiadau chwyrn adeg y rhyfel cyntaf daeth i deimlo yn agos iawn at y werin ymhob man. Nid yn unig daeth i hoffi ffermwyr a gweithwyr y tir yn Llŷn ac Eifionydd ond hoffodd hefyd y cymeriadau y daeth i gyffyrddiad â hwy yn y carchar, rhai ohonynt yn rhai digon od. Yr oedd ei gariad yn ddwfn at y werin ymhob man, ond y mae'n sicr mai'r werin Gymreig oedd yn cael y lle blaenaf yn ei galon. Fel yr heneiddiai deuai hyn yn amlycach o hyd. Magwyd ef yn Lerpwl a throdd lawer ymhlith Saeson a phobl o genhedloedd eraill. Yr oedd yn adnabod llawer o enwogion, yn llenorion, yn wleidyddion, yn feirdd ac yn bendefigion, ac yr oedd yn gyfeillgar gydag amryw ohonynt. Wrth siarad ag ef am y peth yma a'r peth arall digwyddech sôn weithiau am rywun adnabyddus a dywedai yntau ei fod yn ei adnabod, ond byddai yn rhaid i'r sgwrs droi i'r fan honno cyn y dywedai hynny. Eithr hoffai sôn ohono ei hun am hen gymeriadau gwlad ac am hen hanes Dolwyddelan, ardal enedigol ei daid a'r ardal y daeth yntau i fyw ynddi yn y blynyddoedd olaf. Gwell ganddo, yn y blynyddoedd hynny, droi gyda Chymry, siarad Cymraeg a sôn am lenyddiaeth a chrefydd Cymru. Ni bu gair o un iaith arall yn ei angladd.
Byddai yn hoff o adrodd ambell stori am wahanol gymeriadau. Tueddai rhai i feddwl nad oedd ganddo fawr o hiwmor, ond camgymeriad oedd hynny. Un o'r troeon diwethaf i mi ei weled yr oedd yn cael hwyl neilltuol wrth gofio am ddywediad un o'i ddefaid yn sir Forgannwg. Gwahoddwyd George