Davies a'r dynion diwaith yr oedd yn gofalu amdanynt i balas yr esgob gan Timothy Rees, Esgob Llandaf ar y pryd, a chawsant groeso mawr yno. Ar y daith yn ôl gofynnodd George iddynt sut yr oeddynt wedi eu mwynhau eu hunain.
"Ah, it was fine", meddai un ohonynt. "The Bishop was like a father to us. But I was vexed to see Tom disgrace us at the table."
"What did Tom do?" meddai George Davies. "I didn't notice anything wrong."
"Didn't you see him eating his bloody trifle with a knife?" ebe'r llall.
"Yr oeddwn i'n meddwl y buasai gwneud hynny yn gryn gamp!" meddai George Davies wrth ddweud yr hanes. Yr oedd ganddo lawer o straeon fel yna a byddai yn mwynhau eu hadrodd.
Dro arall dywedodd hanes y cerydd caredig a gafodd gan flaenor yn Sir Feirionnydd, "hen frawd annwyl", meddai wrth adrodd yr hanes. Ar ddiwedd oedfa daeth ato a gofynnodd iddo gymryd gair o gyngor yn garedig—yr oedd gofyn iddo wisgo yn fwy addas i'w swydd fel gweinidog.
"'Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n weddol daclus", meddai George Davies, "a gofynnais iddo a oedd am i mi wisgo coler gron".
"Na, na, coler Pab ydi honno", meddai'r hen frawd, "ond mi leiciwn i pe buasech chi'n gwisgo tei wen—'does dim byd neisiach i bregethwr!"
Nid oedd dim yn bregethwrol ynddo. Rheolwr banc oedd ar ddechrau ei yrfa gyhoeddus; ar ôl rhyfel 1914-18 y penderfynodd fyned i'r weinidogaeth a chymryd ei ordeinio, a bu am ysbaid fer yn fugail eglwys. Ar ôl hynny bu'n gweithio yn y De yn ceisio gwneud rhywbeth i leddfu'r tlodi a'r cynni yno yn ystod y blynyddoedd drwg, ac yn ddiwethaf oll daeth i fyw i Ddolwyddelan, i'r tŷ lle bu Crych Elan, awdur "Y