bwthyn bach to gwellt", yn byw unwaith. Parhaodd i bregethu, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nolwyddelan, siaradai yma ac acw ar heddwch a brawdoliaeth a chwiliai am gyfle i wneud cymwynas. Ni ellid synio amdano fel dyn un enwad na chyfundeb.
Fel y dywedwyd, nid oedd yn areithiwr. Ysgrifennodd lawer, ond nid oedd yn ysgrifennwr gwych ychwaith. Yn ei anerchiadau a'i ysgrifau byddai yn sicr o ddyfod yn ôl at un pwnc, cariad a chymod, brawdoliaeth dyn wedi ei sylfaenu ar dadolaeth Duw. "Ymha rych bynnag y bydd y drafodaeth yn dechrau', meddai un cymydog craff, "y mae hi'n gorffen yn yr un dalar efo George", ac yr oedd cryn lawer o wir yn y dywediad. Er hynny, yr oedd yn enwog trwy Gymru ac yn ddylanwad mawr ar fywydau llawer. Ei athrylith ysbrydol, ei gywirdeb tryloyw, ei dynerwch mawr oedd yn cyfrif am hynny. Moesol oedd ei ddylanwad. Dioddefodd ingoedd enaid oherwydd pechod a chreulondeb a diffyg cariad y byd, a bu byw mewn cyfnod pan gafodd y pethau hynny adnewyddiad nerth a gallu. Yr oedd y baich yn drwm ar ei ysbryd; carai ddynion a gwaedai ei galon drostynt yn eu trueni a'u hangen a'u hanwybod. Ni allech fod yn hir yn ei gwmni heb gael cip ar y dyfnderoedd o deimlad ac o ddioddef oedd ynddo, er na cheisiodd ef erioed ddangos hynny. Os bu dyn erioed yn sant yr oedd George Davies yn sant. Ac fel pob sant, y mae'n debyg, yr oedd ynddo elfennau a barai ei fod weithiau yn anodd ei ddeall.
Yn erbyn cefndir Dolwyddelan yr hoffaf feddwl amdano. Gwelais gryn lawer arno yno yn y blynyddoedd olaf gan y byddwn yn myned yno ar fy ngwyliau bob blwyddyn. Os digwyddai fod yn ddiwrnod gwlyb byddai George Davies yn bur sicr o ddyfod i'r llety i edrych amdanom, a da a fyddai clywed ei lais cariadus fel y deuai ar hyd llwybr yr ardd at y drws. Yr oedd yn ymgomiwr diddan; cyfarfu â llu o bobl ddiddorol o wahanol safleoedd a byddai ganddo lawer o