straeon ac atgofion i'w hadrodd amdanynt. Yno, dan gysgod Moel Siabod, siaradem am Dan y Castell, lle ganed ei daid, ac am Nant y Tylathau, yn unigrwydd y mynydd, lle byddai John Jones, yn llanc ieuanc, yn pregethu i'r defaid a'r gwarth- eg, a buom yn cynllunio myned yno gyda'n gilydd. Daeth rhywbeth i rwystro'r bwriad hwnnw; buasai'n dda gennyf fod wedi gweled ŵyr Talsarn yn sefyll wrth y garreg ar fin y nant.
Yng Nghynfal, hen gartref Morgan Llwyd, y gwelais ef am y tro diwethaf. Daeth yno i'r dathliad, pan ddadorchuddiwyd y tabled ar fur y tŷ, a siaradodd. Traddodiad hir a pharhaol iawn yw'r traddodiad Cymreig a theimlwn y diwrnod hwnnw fod George Davies a Morgan Llwyd yn yr un olyniaeth ac yn perthyn yn bur agos i'w gilydd. Bu'r naill a'r llall byw mewn cyfnodau tymhestlog, helbulus; cymerodd y naill a'r llall ran ym mywyd cyhoeddus eu dydd, a bu'r ddau yn ddewr i fynegi eu barn a'u hargyhoeddiad mewn amseroedd enbyd. Rhedodd y ddau yr un yrfa; cadwodd y ddau yr un ffydd. Yr oedd George Davies yn ei awyrgylch briodol ym muarth Cynfal y diwrnod hwnnw, yr hen dŷ cadarn yn ei ymyl a'r mynyddoedd uchel yn gefndir i'r cwbl.
Y Moelwyn a Moel Siabod, cadernid Cynfal, tawelwch Tan y Castell, unigedd Nant y Tylathau, a thraddodiad hir iaith a bywyd a theuluoedd Cymru. Y mae'r pethau hyn yn cyfrif.