Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadair athroniaeth ym Mhrifysgol St. Andrews, a chyn hynny yn athro yn yr un pwnc yng Ngholeg y Gogledd ym Mangor. Yr oedd ei hanes yn hysbys i bob Cymro yn y blynyddoedd hynny. Gwyddem oll mai mab crydd yn Llangernyw, Sir Ddinbych, oedd, ac iddo ddechrau ei yrfa fel crydd ei hun. Gwyddem rywbeth am ei yrfa yn y Coleg Normal ym Mangor a'i dymor fel athro ysgol elfennol yn y De. Gwyddai to hŷn na mi amdano fel pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; gwyddid ei fod yn un o athrawon cyntaf Coleg y Brifysgol ym Mangor, ac yn yr adeg y soniaf amdani oedd teimlad pur gyffredinol mai ef a ddylasai fod y Prifathro cyntaf hefyd. Penodwyd y diweddar Syr Harry Reichel, gŵr na feddai unrhyw wybodaeth am Gymru ar y dechrau, a theimlai llawer o Gymry mai peth chwithig oedd hynny.

Nid yw dywedyd hyn yn unrhyw adlewyrchiad ar Syr Harry Reichel. Rhoddodd ef wasanaeth ffyddlon a hunan-aberthol i'r coleg ieuanc am flynyddoedd maith; dysgodd ddigon o Gymraeg i fedru darllen yr iaith, beth bynnag, a gwnaeth ei orau i ddeall safbwynt, traddodiad a theimlad y bobl y daeth i fyw i'w plith. Ymhen amser daeth llawer i feddwl ei fod wedi gwneud gwell pennaeth i'r coleg nag a wnaethai Henry Jones. Ond er dywedyd hynny y mae'n anodd peidio credu mai teimlad o israddoldeb oedd y tu-cefn i'r penodiad cyntaf, y syniad sydd yn ddigon cyffredin o hyd ymhlith Cymry, ysywaeth, fod yn rhaid fod rhywbeth heb fod yn Gymreig yn well.

Bargen sâl, a'i chyrchu o bell,
Mae honno'n well o'r hanner,


medd yr hen air. Nid bargen sâl a gafwyd yn Syr Harry Reichel, ond y mae'n ofnus fod y syniad am gyrchu o bell yn llechu y tucefn i feddwl yr awdurdod a wnaeth y penodiad. Beth bynnag am hynny, yr oedd llawer yng Nghymru y pryd