Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny yn credu dau beth—y dylasai Henry Jones fod yn Brifathro Bangor, ac y dylasai Griffith Hartwell Jones fod yn esgob yng Nghymru ac nid yn rheithor plwy ym mherfeddion Lloegr. Yr oedd Griffith Hartwell Jones yn credu yr ail gymal ei hun.

Ei Gymreigrwydd, meddid, oedd y rhwystr ar ffordd Hartwell Jones i'r fainc esgobol. Ei anuniongrededd, meddai llawer, oedd wedi cadw Henry Jones rhag bod yn brifathro Bangor, ac y mae'n debyg fod elfen o wir yn hynny. Ni chlywais ef yn pregethu erioed ac nid oes gennyf gof i mi glywed neb yn ei ddisgrifio fel pregethwr. Ond yn sicr nid oedd ar ganol llwybr uniongrededd Methodistiaeth Galfinaidd ei ddydd. Yr oedd yr hyn a ddywedodd am ffydd yn ystod y sgwrs y cyfeiriwyd ati yn enghraifft, y mae'n debyg, o'r pethau a ddywedai o'r pulpud weithiau. Yr oedd ei argyhoeddiadau crefyddol yn gryfion,—dyna'r argraff a roddodd arnaf bob amser,―ond yr oedd ei feddwl yn anturus ac yn fywiog ac nid oedd yn barod i dderbyn athrawiaethau heb edrych yn eu hwynebau yn gyntaf. Ac os byddai Henry Jones yn meddwl i gyfeiriad neilltuol yr oedd yn bur sicr o ddweud ei feddwl yn glir, bydded y canlyniadau y peth y bont. Yr oedd yn hollol agored ac ni chafodd y syniad o dewi er ei fantais ei hun le yn ei athroniaeth o gwbl.

Yr oedd pethau eraill yn milwrio yn ei erbyn-pethau bychan a chwerthinllyd braidd oedd rhai ohonynt erbyn hyn. Cwynid—clywais hynny fy hun—nad oedd yn gwisgo yn briodol i'w swydd, a'i fod yn dweud pethau oedd yn dangos diffyg parch i rai mewn awdurdod. Byddai yn hawdd gennyf gredu y cymal olaf. Heblaw hyn oll, nid oedd ar y telerau gorau â'r Prifathro Thomas Charles Edwards, ac yr oedd Thomas Charles Edwards yn ŵr o ddylanwad mawr iawn yn y cyfnod hwnnw. Ni ysgrifenwyd cofiant cyflawn iddo hyd yn hyn, ond, a barnu oddiwrth y pethau a glywais a rhai