Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llythyrau a welais, gellir tybio fod y pregethwr mawr a'r ysgolhaig dysgedig hwnnw wedi etifeddu cryn gyfran o natur unbennaethol ei dad, Dr. Lewis Edwards. Teimlo y byddaf ein bod dan ein dwylo i raddau wrth drin a thrafod dynion a digwyddiadau'r cyfnod a bod mawr angen astudiaethau llawn ac agored o'r naill a'r llall. Y mae un peth yn sicr; bu dylanwad y ddau Ddr. Edwards, dad a mab, yn fawr yng Nghymru am gyfnod lled faith a phwysig, ac y mae'n debyg fod ganddynt hwy, fel pawb ohonom, eu pobl. Ymddengys nad oedd Henry Jones yn un o bobl Thomas Charles Edwards. Nid wyf yn bwriadu dweud dim am ei yrfa ar ol gadael Cymru; y mae'r hanes yn ei gofiant gan Syr Hector Hetherington. Ond i lawer iawn o Gymru'r cyfnod hwnnw, Henry Jones oedd "yr alltud mawr", y brif enghraifft o'r polisi trychinebus o adael i Gymry disglair adael eu gwlad ac o esgeuluso sicrhau gwasanaeth Cymry a oedd yn deall eu gwlad a'u cydwladwyr. Yr oedd elfen anheg yn y peth; hynny ydyw, yr oedd ynddo elfen o'r hyn a oedd i'w weled ym mhenodiad Reichel, sef meddwl fod dŵr a gyrchwyd dros afon yn well. Ychydig o wasanaeth a roddodd Henry Jones i Gymru o'i gymharu, dyweder, â Syr John Edward Lloyd, a roddodd oes o wasanaeth amhrisiadwy iddi, ond ni chlywid neb yn moli John Edward Lloyd fel y molid Henry Jones. A byddai Henry Jones ei hun yn gwadu ei fod yn "alltud". Gadael Cymru o'i fodd a wnaeth, meddai, ac unwaith sicrhaodd fi, pan ddywedais ei bod yn resyn na buasai yn gweithio yng Nghymru, "Pe buaswn i wedi aros yng Nghymru fuasai gen i ddim dylanwad".

Ar yr un pryd, yr oedd ei golli o Gymru yn golled wirioneddol. Yr oedd Coleg Bangor yn ieuanc y pryd hynny, ac yn sicr anffawd i sefydliad Cymreig oedd cael pennaeth cwbl amddifad o wybodaeth am fywyd Cymru. Gŵr cywir oedd Reichel