Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond gŵr a fagwyd mewn traddodiad gwahanol iawn i'r bobl oedd yn dyfod ato i'r coleg. Yr oedd hefyd yn ŵr yswil iawn, ac y mae pobl felly bob amser yn cael y gair o fod yn bell ac yn "uchel". Dyna'r argraff a roddai Reichel arnoch, argraff hollol gamarweiniol, y mae'n debyg, a chafwyd rhywbeth tebyg i gyfnod y rhew mawr yng Ngholeg Bangor. Yr oedd ias yr oerni hwnnw i'w deimlo yno hyd yn oed gan ymwelydd ar ei dro fel myfi er fod John Morris Jones a Chymry selog eraill ar y staff. Ac ar yr wyneb nid oedd dull yr Athro John Edward Lloyd, y Cofrestrydd ar y pryd, yn toddi dim ar y rhew. Yr oedd yn rhaid i chwi ddyfod i adnabod Syr John Lloyd i wybod am yr hiwmor a'r caredigrwydd a'r gwladgarwch eirias a oedd y tu ol i'w gwrteisi urddasol.

Ymhen blynyddoedd daeth newid a meiriol ac awyrgylch wahanol iawn, ac ni allai dyn lai na meddwl y gallesid bod wedi cael yr awyrgylch hwnnw o'r dechrau pe buasid wedi gwneud Henry Jones yn Brifathro. Ni buasai rhew yn aros yn hir yn ei ymyl ef; yn wir, syniad llawer o bobl barchus ac ofnus oedd fod ynddo ormod o dân. Yr oedd yn bregethwr Methodus, ond ni wisgai fel pregethwr ac yr oedd si ei fod yn dweud pethau anuniongred ar ei bregethau. Traethai ei farn, hefyd, am bobl a sefydliadau yn bur eofn weithiau, a sathrodd ar gyrn rhai pobl nad oeddynt wedi arfer a chael sathru eu cyrn. Yr oedd ar lawer yng Nghymru'r cyfnod hwnnw ofn y gŵr mentrus, ymosodol, dibris o'r safonau ofnog a "pharchus". Dyna oedd yr agwedd at Lloyd George fel gwleidyddwr ieuanc. "Yr oedd pobl y sêt fawr wleidyddol, gydag ychydig iawn o eithriadau", meddai wrthyf unwaith, "yn fy erbyn bob un". Ac yr oedd pobl y sêt fawr academaidd yn erbyn Henry Jones. Yr oedd yn allu rhy ffrwydrol iddynt hwy allu teimlo yn gysurus yn ei ymyl.

Clywais ddadlau mai gwell i goleg yn dechrau byw fel Bangor oedd sicrhau parch ac ystyriaeth cylchoedd academaidd yn