Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lloegr trwy gael gŵr o gymwysterau a chefndir Reichel yn bennaeth. Dyna'r gymhleth israddoldeb ar lawn waith. Yr oedd Henry Jones yn ddigon da i ddilyn Edward Caird yng nghadair enwog athroniaeth foesol yn Glasgow, ond nid oedd gan Gymry'r cyfnod hwnnw ddigon o ffydd yn eu gwlad a'u cydwladwyr i gredu ei fod yn ddigon da i fod yn bennaeth coleg bychan oedd yn cychwyn ar ei yrfa.

Hen hanes ydyw stori penodiad prifathro cyntaf Bangor erbyn hyn, er nad yw yn hanes heb ei wersi i ni heddiw. Athro yn Glasgow oedd Henry Jones pan ddeuthum i'w adnabod, a'r argraff a wnaeth arnaf fi, ac ar bawb arall, mi gredaf, oedd na bum erioed mewn cyffyrddiad â dyn mor fyw. Yr oedd ei symudiadau, ei siarad, ei lygaid, yn fyw. Yr oedd yn amhosibl bod yn gysglyd nac yn annifyr yn ei gwmni. Yr oedd ganddo stôr o straeon cefn gwlad a dawn i'w hadrodd. Bathai ddywediadau pert, a theimlech yn aml fod cyfoeth o sylwadaeth ac o feddwl y tu ôl i'r pethau a ddywedai.

Dywedodd rhywun amdano ei fod yn fwy o broffwyd nag o athronydd, a chredaf mai'r syniad erbyn hyn ydyw nad oedd fel athronydd gwreiddiol yn y rheng flaenaf ond ei fod yn athro ysbrydoledig. Nid oes gennyf gymwyster i roddi barn ar yr athronydd, ond y mae yn hawdd iawn gennyf gredu yr hyn. a ddywedir amdano fel athro.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yr oedd fel arian byw. Pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf nid oedd wedi tyfu'r farf laes a wisgai yn y blynyddoedd olaf, ac yr oedd yn un o'r dynion harddaf, gyda'r ddau lygad prydferthaf a welais ymhen neb erioed. Yr oeddynt fel dwy lamp yn llosgi yng nghysgod y talcen mawr, weithiau yn llawn direidi, dro arall yn fflachio mewn dicter, ac ambell dro yn edrych i'r pellter fel pe buasent yn syllu ar orwelion heulog draw. Felly yr edrychai pan yn siarad mewn cyfarfod Gwyl Lafur y chwarelwyr ym Mlaenau