Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffestiniog flynyddoedd yn ol, pan draddododd un o'r areithiau sydd yn ei lyfr, "Dinasyddiaeth Bur."

Dechreuodd trwy ddywedyd ei fod am wneud peth a fuasai yn andwyo pregethwr Methodus, sef darllen ei bregeth, a thynnodd bapurau o'i boced. Gwyddwn amdano, a dyfalwn am ba hyd y byddai'r papurau yn cael eu defnyddio. Cyn pen pum munud yr oedd wedi anghofio popeth amdanynt ac yn cerdded yn ol a blaen ar y llwyfan, er dirfawr berygl i draed pawb ohonom, weithiau yn cau ei ddwrn ar ei gynulleidfa, ambell dro yn ysgwyd ei ddwrn yn wyneb un o'r siaradwyr eraill a oedd yn eistedd yn ei ymyl, dro arall yn dweud stori a barai i'r gwrandawyr chwerthin yn ddi-lywodraeth. A thrwy'r cwbl, yn rhyferthwy'r huodledd, yr oedd yr ymresymiad yn myned ymlaen yn ddifwlch. Ni chlywais neb erioed a fedrai gyfuno ymresymiad cymhleth â huodledd gwirioneddol fel y medrai ef. Pan fyddai Lloyd George yn ymresymu byddai ei areithiau yn tueddu i arafu a thrymhau ond yr oedd Henry Jones yn medru ymresymu ar fannau uchaf ei huodledd, ac yr oedd ganddo ddarnau huawdl iawn yn yr araith honno.

Credaf y buasai yn dirmygu huodledd heb ymresymiad. Daeth i gyfarfod gwleidyddol yng Nghaernarfon unwaith, a bu dau siaradwr o'i flaen yn traethu yn hir ac yn lled ddi-bwynt ar ragoriaethau Lloyd George. Dywedodd un ohonynt stori am rywun a fu'n siarad â Lloyd George ar ochr y ffordd, ac wrth ei weled yn ymadael yn ei fotor meddwl am Elias a'i gerbyd tân. "Wel", meddai Henry Jones,—a dyna ei eiriau cyntaf y noson honno,—"os ydw i i siarad heno, 'Deuwch ac ymresymwn' dd'wedai i, ac nid 'Deuwch ac ymfflamychwn'. Os ydi Lloyd George wedi mynd i'r nefoedd yr un fath ag Elias 'does dim eisio i ni weithio drosto fo". Yna aeth ymlaen i ddirwyn ei ymresymiad ar fasnach rydd, a'r ymfflamychwyr yn llyfu eu doluriau. Gallai fod