"Dyna i chi wladgarwch!" meddai Henry Jones, wrth adrodd yr hanes. "Yr oedd o yn troi'i gefn arno Fo mewn munud!"
Yn ystod y rhyfel mawr cyntaf bu Henry Jones yn annerch llawer o gyfarfodydd yng Nghymru i ddadlau achos y Cynghreiriaid ac i gefnogi ymuno a'r fyddin. Byddai llawer yn rhyfeddu fod gŵr gyda'i gefndir ef yn gwneud hynny, ond nid oedd y peth yn syndod o gwbl wrth gofio am ei ddysgeidiaeth am uchafiaeth y wladwriaeth. Dysgeidiaeth Ellmynig oedd honno yn ei hagweddau diweddaraf, er fod Hobbes wedi ei dysgu yn Lloegr hefyd yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond yr oedd Henry Jones yn ei choledd fel efengyl, fel y gwelir oddiwrth ei areithiau yn "Dinasyddiaeth Bur". Pa beth, tybed, a fuasai ei farn am rai o'r datblygiadau ar y syniad o uchafiaeth y Wladwriaeth a welwyd yn ein hamser ni, ond ar ôl iddo ef fyned ymaith? Fel yr oedd, deuai fflachiadau o hen unigoliaeth Llangernyw i'r golwg ar adegau, ac yr oedd hen grefydd Llangernyw yn amlwg ynddo i'r diwedd, beth bynnag fu troeon ei gredo.
Ni bûm yn gwrando arno yn ystod y rhyfel; yr oedd yn well gennyf beidio. Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1914 a 1918 yr oedd llawer iawn o'r pethau yr oedd pobl o'm cenhedlaeth i wedi cael eu magu i gredu ynddynt yn myned yn chwilfriw, a'r hyn oedd yn chwerw oedd ein bod yn gorfod dechrau amau a oedd y rhai a'n dysgodd i gredu ynddynt wedi credu ynddynt eu hunain. Y mae'n debyg iawn ein bod yn anheg ac yn anoddefgar; y mae'n hawdd gan yr ieuanc fod felly. Ond nid oedd amheuaeth am ein siom ac yr oedd clywed pobl yn siarad am ddisgyblaeth foesol rhyfel a phethau o'r fath a ninnau yn gweled dim ond methiannau gwladweinwyr a bwystfileiddiwch rhyfel, yn peri i ni chwerwi ac amau dilysrwydd pawb dros dro. Dyna'r cyfnod y byddai tadau yn son am "roddi" eu meibion er mwyn eu gwlad, a ninnau yn