JOHN PULESTON JONES 1862-1925
MI fuasai Puleston", meddai pregethwr rhagorol a sylwedydd craff, "yn pregethu ymhell uwchben ei wrandawyr onibai am yr hiwmor yna sydd yno fo. Y mae ei feddwl o mor dreiddgar ac mor fanwl fel na buasai fawr o obaith i'r rhan fwyaf fedru ei ddilyn o pe na buasai fo yn deud ambell beth fydd yn goleuo'r cwbl iddyn' nhw."
Bûm yn dyfalu lawer gwaith i ba raddau yr oedd yr "ambell beth" yn goleuo'r cwbl i'r gynulleidfa. Yn wir, y mae'n gwestiwn diddorol i ba raddau y mae cynulleidfaoedd heddiw yn alluog i ddilyn ymresymiad cymhleth neu hyd yn oed osodiadau gweddol gyffredin. Hwyrach y dylid newid y gair heddiw ac eangu'r cwestiwn, canys cofiaf fel y canmolid ambell bregethwr lawer blwyddyn yn ol nad oedd ganddo fawr ddim ond dawn i waeddi. Ac wrth ddarllen rhai o bregethau cyhoeddedig yr oes o'r blaen, rhai Henry Rees, dyweder, neu Rowland Hughes, y mae dyn yn gofyn tybed a oedd rhelyw gwrandawyr y pregethwyr hyn yn eu deall a'u dilyn? Os oeddynt y mae'n rhaid eu bod yn anhebyg iawn i gynulleidfaoedd heddiw. Ond nid wyf yn tybio eu bod yn anhebyg. Y mae'n wir fod yn eu plith rai a oedd yn llawer mwy hyddysg yn eu Beibl nag yw y rhan fwyaf o bobl heddiw a bod cyfeiriadau Ysgrythurol yn debycach o apelio atynt. Ond y mae safon gyffredinol addysg yn llawer uwch heddiw ac eto cwynir fod cynulleidfaoedd yn anodd pregethu iddynt. Nid dyma'r lle i drafod y mater, ond y mae yn gwestiwn pur ddiddorol ac yn cyffwrdd bywyd Cymru yn bur agos. A yw safon ddeallol a meddyliol y werin Gymreig cyn uched ag y bu?