Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n bosibl iawn fod fy nghyfaill yn iawn yn ei syniad am bregethu John Puleston Jones. Yr oedd gan Puleston feddwl miniog, treiddgar a diwylliant eang. "Meddyliwch amdano", meddai cyfaill arall, "yn ddyn dall, yn cael anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes—mewn hanes, marciwch chi. Pe buasai wedi cymryd athroniaeth mi gawsai ddweud be' fynnai o ond yr oedd yn rhaid iddo fo wybod ei ffeithiau mewn hanes!" Ni raid i mi ychwanegu mai dyn hanes yw fy nghyfaill, ond er mai rhwng difrif a chwarae y llefarai yr oedd cryn lawer yn yr hyn a ddywedodd. Yr oedd gan Puleston afael feddyliol a oedd ymhell uwchlaw'r cyffredin. Byddai pobl yn rhyfeddu, nid heb achos, at ei fedr mewn gwahanol gyfeiriadau ag yntau yn ddall, heb gofio amser pan oedd yn gweled, ond y meddwl cryf, gafaelgar oedd yn cyfrif am y medr hwnnw. Rhoddodd Puleston ei holl adnoddau meddyliol ar waith i oresgyn ei ddiffyg naturiol a llwyddodd i raddau a ymddengys yn anhygoel bron.

Bûm unwaith yn cysgu yn yr un ystafell ag ef am noson. Yr oedd yr ystafell yn ddieithr iddo a gofynnodd i mi fyned ag ef o gwmpas. Euthum, ac wedi bod o'i hamgylch unwaith gwyddai Puleston bron gymaint a minnau amdani a cherddai yma a thraw ar hyd-ddi heb betruso dim. Bore drannoeth yr oedd yn barod i fyned i lawr o'm blaen. Paciodd ei fag ac aeth at y drws. "Yn wir", meddai, ""rydw i wedi anghofio fy mrwsus gwallt", a throdd yn ol at y bwrdd lle yr oedd ei rai ef a'm rhai innau. Ni ddywedais i ddim; ni ofynnodd yntau ddim. Gafaelodd yn ei frwsus ei hun yn hollol ddi-betrus a rhoddodd hwynt yn ei fag. Buasech yn taeru ei fod yn gweled. Wrth gwrs, yr oedd yn gweled, a llygad ei feddwl. Yr oedd yn meddwl beth yr oedd yn ei wneud wrth eu rhoddi i lawr ar y bwrdd. Yr oedd yn meddwl wedyn wrth bacio, ac wedi pacio, ei fag. Ac yr oedd yn cofio lle y