Un tro, yn ystod y rhyfel mawr cyntaf, yr oedd yn siarad yng Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd. Nid wyf yn cofio'r pwnc ond y mae gennyf gof clir am un frawddeg a ddywedodd Puleston.
"Y mae nhw'n dweud heddiw", meddai, "mai peth ardderchog iawn ydi bod yn ddibris o farw. Hwyrach fod hynny yn wir, ond peth sal iawn ydi bod yn ddibris o farw pobol eraill".
Yr oedd ei agwedd at y rhyfel,—ac at bob rhyfel y mae'n debyg, yn hysbys i bawb. Credai na ellid cysoni dysgeidiaeth Crist â rhyfel, ac yn wahanol i lawer a oedd yn credu yr un fath, ond yn amwys a niwlog, sylfaenai Puleston ei gred ar ei wybodaeth am hanes, hanes byd ac eglwys. Bu ef a gweinidog arall yn dadlau ynghylch gorfodaeth filwrol a rhyfel yn gyffredinol yn y Goleuad unwaith, er dirfawr boen i Dr. John Williams, Brynsiencyn, a ystyriai, yr adeg honno, fod Puleston yn cyfeiliorni ymhell iawn. Nid oedd gymhariaeth rhwng y ddau ddadleuydd o ran gorwelion a gallu i edrych y tuhwnt i gynhyrfiadau a chri y foment.
Bu Puleston yn amhoblogaidd yn y blynyddoedd hynny. Yr oedd yn weinidog ym Mhwllheli, ac yr oedd ei syniadau yn bur annerbyniol yn y lle hwnnw a'r wlad o gwmpas. Prin, hwyrach, y gallasech chwi ddweud iddo fod yn bersonol boblogaidd bob amser, hyd yn oed ar wahan i'w syniadau ar y rhyfel ac yn ei ofalaethau eraill. Bûm yn meddwl fod ei ddallineb yn cyfrif am hynny i raddau, beth bynnag, ac yn fwy o rwystr iddo fel bugail nag a dybid. I bob golwg yr oedd wedi cael y llaw uchaf ar y dallineb, ac yr oedd hynny yn wir i raddau pell. Ond yr oedd o dan anfantais neilltuol wrth drin pobl,—nid oedd yn gweled wynebau y rhai y siaradai â hwynt, a gwyddom oll fod wyneb y sawl y siaradwn ag ef yn dweud llawn cymaint wrthym a'i eiriau. Gwyddom yn lled dda pa bryd y bydd yr hyn a ddywedir wrth ei fodd