neu fel arall, heb iddo ef ddweud dim. Gwelwn yr amheuaeth, y cytundeb, y dirmyg neu'r digrifwch yn myned ac yn dod ar draws yr wyneb fel cysgod y cymylau ar lethr y mynydd, ac efallai y lluniwn ein geiriau i gyfarfod â'r hyn a welwn. Ni welai Puleston yr arwyddion hyn ac ni allai lunio ei gwrs wrthynt. Yr oedd yn rhaid iddo ef ddibynnu ar yr hyn a ddywedid, ac er ei fod yn rhyfeddol o graff i adnabod cywair llais, nid oedd hynny yn ddigon bob amser. Y mae'n debyg ei fod wedi sathru ar gyrn rhai pobl heb feddwl ac heb wybod eu bod wedi teimlo o gwbl.
Ond ni ddylid meddwl mai gŵr yn byw mewn awyrgylch o amhoblogrwydd oedd Puleston. Nid oedd yn ddim o'r fath. Yr oedd ei ddallineb, er yn anfantais ar un ochr, fel y dywedwyd, yn ennill llawer o gydymdeimlad iddo ar ochr arall. Ac yr oedd yntau yn ŵr heulog, braf, siriol ei wedd, llawen ei chwerthiniad,—yr oedd chwerthiniad Puleston yn ddihareb, —a byw iawn ei feddwl. Ni ofynnodd erioed am dosturi nac hyd yn oed am gydymdeimlad oblegid ei ddallineb. Unwaith ysgrifennodd erthygl i mi i brofi cyn lleied o ragoriaeth oedd arnom ni oedd yn gweled rhagor ef. Yr unig beth ynghylch bricsen a wyddem ni na wyddai ef, meddai, oedd ei lliw. Nid oedd ganddo syniad am liw, wrth gwrs; ni allasai fod ganddo syniad. Ond yr oedd mor fedrus gyda phopeth arall fel y tueddai dyn i ryfeddu weithiau pan ddywedai na wyddai sut beth oedd lliw.
Medrai gael hyd i'w ffordd yn y wlad ac yn y ddinas. Aeth unwaith i edrych am weinidog yn Lerpwl a oedd yn byw mewn heol braidd o'r neilltu, lle nad oedd yn hawdd iawn i ddyn yn gweled gael hyd iddo ar y tro cyntaf. Daeth Puleston yno yn llawen, fel pe na buasai yn meddwl dim o'r peth. Sut y daeth y mae'n anodd dweud; bron na thybiai dyn fod ganddo reddf debyg i reddf ci, y reddf sydd yn galluogi'r creadur i gael hyd i'w feistr lle bynnag y bo. Unwaith,