Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan gyfarfuasom yn y tren, dywedodd ei fod yn myned i Rydychen. "Rydw i'n clywed eu bod nhw wedi gwneud rhyw gyfnewidiadau yn yr High", meddai, "ac mi fanteisiaf ar y cyfle yma i'w gweld nhw'. Edrychai'r bobl eraill yn y cerbyd yn amheus arno. Yr oeddynt wedi meddwl ei fod yn ddall, ag yntau yn son am weled y cyfnewidiadau! Ond y peth rhyfeddaf yn ei hanes, am wn i, oedd y byddai yn cerdded ar ei ben ei hun o Ddinorwig i Lanberis ar hyd ffordd serth a dibyn chwarel aruthr ar un ochr iddi mewn un lle. Unwaith yr ai dyn dros yr ymyl honno ni buasai, i ddefnyddio hen air gwlad, yn werth ei godi. Byddai rhai yn arswydo wrth feddwl am Puleston yn myned y ffordd honno, ond ni ddigwyddodd dim erioed. Wrth edrych yn ol y mae'n rhyfeddod fod pregethwr Methodist dall wedi medru dal ati o gwbl, canys y mae y Methodistiaid Calfinaidd yn newid eu pulpudau bob Sul bron. Y mae'n sicr fod Puleston yn gwneud hynny bob Sul ond y deuddeg yn y flwyddyn y byddai yn ei bulpud ei hun.

Byddai'r peth yn rhoddi rhywbeth tebyg i ddifyrrwch iddo weithiau. Pan adolygai lyfr yr oedd fel pe'n ymhyfrydu mewn nodi gwallau argraff; Mrs. Puleston Jones, wrth gwrs, oedd wedi dywedyd wrtho amdanynt, ond ni wyddai pawb hynny. "Ydach chi wedi diffodd y gannwyll?" meddai, y noson y buom yn cysgu yn yr un ystafell. Atebais y gwnawn hynny cyn bo hir. "Ie", meddai yntau, "mi ofynnais i yr un cwestiwn i bregethwr yr oeddwn i'n cysgu efo fo ychydig yn ôl. 'Roeddwn i wedi anghofio ei fod yntau yn ddall ac nad oedd ar yr un ohonom ni eisiau cannwyll. Buom yn chwerthin yn hir am ben y peth!" Chwerthin am ben peth felly!

Ai rhai i wrando ar Puleston, y mae'n debyg, am fod pregethwr dall yn dipyn o ryfeddod. Ond nid pethau arwynebol a dibwys oedd y pethau ynddo ef fel canlyniad i'w