Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddallineb y soniwyd amdanynt ac a barai i bawb ohonom ryfeddu. Arwyddion oeddynt o'r meddwl cryf, effro a gafaelgar a oedd yn gorchfygu'r dallineb hyd yr oedd hynny yn bosibl ac hefyd yn ei wneud yntau yn bregethwr ac yn llenor ar ei ben ei hun. Yr oedd swyn ei bregethau, i mi, yn bur debyg i swyn ei ysgrifennu; swyn iaith ac arddull a meddwl dadansoddol, treiddgar. Cymraeg llafar ar ei orau oedd ei Gymraeg ef, Cymraeg gwladwyr diwylliedig, iaith gref, ystwyth, urddasol a naturiol. Nid oedd rhodres yn agos ato; ni bu pregethwr erioed ymhellach oddiwrth fod yn bregethwrol, ond y mae yn eithaf tebyg ei fod weithiau allan o gyrraedd llawer o'i wrandawyr. Eithr yr oedd ei arabedd heulog ac ambell gyffyrddiad o ddoethineb cefn gwlad yn goleuo'r bregeth iddynt hwythau.

Yr oedd sicrwydd y gŵr diwylliedig yn ei ymwneud â llyfrau a phynciau. Cafodd addysg dda yn ystyr eangaf y gair ac yr oedd ei hôl arno. Yr oedd yn gartrefol ym myd meddwl a diwylliant. Clywais ef yn dechrau un araith gyda'r geiriau, ""Rydw i'n fwy dan fy nwylo nag arfer heno", ond yn anaml iawn y byddai ef dan ei ddwylo yn un o'r ddau ystyr sydd i'r ymadrodd. Yn anaml iawn y byddai yn ymbalfalu mewn nac ysgrif na phregeth, ac y mae ei ysgrifau yn werth eu darllen bob amser, am eu meddwl a'u harddull. Ni wn i am neb yn ein dyddiau ni a fedrai ysgrifennu yr un fath, gyda'r fath graffter ac ehangder ac ar yr un pryd gyda'r fath flas cartrefol, blas sgwrs cefn gwlad ar ei gorau. Yr oedd wedi ei drwytho yn y bywyd Cymreig, yn ei ymadroddion, yn ei ffordd o edrych ar bethau, yn ei hiwmor ac yn ei draddodiad hir. Byddwn yn meddwl am fy mam wrth siarad â Puleston neu wrth ddarllen ei waith. Dywedid ei bod hi yn debyg i'w thaid, Richard Humphreys, y Dyffryn, ac yr oedd ganddi gyfoeth o ymadroddion gwlad a dywediadau Ardudwy at ei galwad. Dywedais wrth Puleston unwaith, pan soniem