am ddyn a oedd braidd yn ffwdanllyd, y buasai fy mam yn dweud ei fod "yn neidio ac yn disgyn". Chwarddodd yn uchel. "Dyna fo i'r dim!" meddai. "Yn neidio yn brysur ac yn disgyn yn yr un lle o hyd a mynd dim yn ei flaen!" Holodd am ychwaneg o ddywediadau tebyg ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ymhyfrydu ynddynt. Yr oedd pethau o'r fath yn rhoddi lliw ar ei areithiau a'i ysgrifau.
Gŵr heulog, llawen ei chwerthiniad, parod ei air a chymdeithasgar oedd Dr. Puleston Jones. Ond ni ddylid anghofio ei fod hefyd yn ŵr cryf iawn. Dangosodd hynny yn fore, fel y dywed ei gofiannydd a'i fab-yng-nghyfraith, y diweddar Barch. R. W. Jones. Pan aeth yn weinidog ar ei ofalaeth gyntaf ym Mangor daeth ei ewythr, brawd ei fam, Syr John Puleston, allan fel ymgeisydd Toriaidd yn erbyn Lloyd George ym Mwrdeisdrefi Arfon. Ceisiodd ei fam ganddo siarad dros ei brawd ac atebodd yntau mai ar un amod yn unig y gwnai, sef nad ai byth i bulpud wedyn. Yr oedd yr un cadernid ynddo ar hyd ei oes a safodd yn ddigryn mewn adeg pan yr oedd llawer yn gwegian.
Blynyddoedd digalon oedd blynyddoedd y rhyfel mawr cyntaf a'r blynyddoedd a'u dilynodd yng Nghymru, ond daliodd rhai eu gafael ar egwyddor ac ar safonau drwy'r cwbl, ac yr oedd Puleston yn amlwg yn eu plith. Dioddefodd lawer, a dioddefodd yn ddistaw, eithr ni syflodd. Ni chwerwodd, ychwaith, ac ni chollodd ei dymer. Byddwn yn rhyfeddu yn aml at ei allu i'w feddiannu ei hun mewn amgylchiadau anodd; byddai yn peri i mi feddwl ei fod wedi codi i fryn uwch na'r rhan fwyaf ohonom ac yn gweled megis "uwchlaw cymylau amser". Yr oedd yn dda wrtho ef a'i fath yn y cyfnod hwnnw, onide buasai llawer ohonom wedi colli hynny o ffydd oedd gennym. Cadwodd ef y ffydd a chynorthwyodd eraill i'w chadw.
Ychydig flynyddoedd yn ol bûm yn sefyll wrth ei fedd ym