Prawfddarllenwyd y dudalen hon
mynwent yr eglwys yn y Bala. Bu farw yn 1925, yn dair a thrigain oed, ac erbyn hyn nid yw yn fawr fwy nag enw i laweroedd. Ond y mae yn fyw yn ei ysgrifau ac yn ei bregethau cyhoeddedig, a gallwn ni a oedd yn ei adnabod dystio ei bod yn haws dyfod at Puleston Jones drwy'r gair argraffedig nac at lawer iawn o wŷr enwog gynt. Y mae tinc ei lais yn aros yn ei frawddegau ef, a bron na allech ddychmygu ei glywed yn chwerthin ar ddiwedd ambell baragraff.