Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SYR JOHN MORRIS-JONES 1864-1929

UNNWAITH, ar blatfform stesion Bangor, gwelais Syr John Rhys, Syr Edward Anwyl a Syr John Morris-Jones yn cerdded gyda'i gilydd. Nid oedd yr un ohonynt yn farchog y pryd hynny, nac am rai blynyddoedd wedyn, ac y mae'n debyg nad oedd neb y pryd hynny wedi meddwl am iddynt fod yn farchogion. Hwyrach y buasai rhywun yn dywedyd yr un peth wrthynt hwy, pe dywedasid eu bod i gael eu gwneud yn farchogion, ag a ddywedodd rhywun yn Llangernyw wrth Syr Henry Jones pan ddaeth y newydd am yr anrhydedd a osodwyd arno ef.

Yr oedd Henry Jones yn digwydd bod yn ei hen ardal y diwrnod hwnnw a daeth hen gymeriad i'w gyfarfod ar ôl clywed y newydd, yn chwerthin yn aflywodraethus. "Harri", meddai, "mae'n nhw'n deud dy fod ti wedi dy neud yn farchog. 'Does bosib i fod o'n wir!"

"Ydi, wrth gwrs mae o'n wir", meddai Henry Jones, "Be am dano fo".

"Ti yn farchog!" oedd yr ateb. "Toes gen ti'r un mul heb son am geffyl!"

Ond, marchogion neu beidio, yr oedd y tri yn wŷr enwog yng Nghymru'r pryd hynny, ac edrychwn gyda diddordeb mawr arnynt, John Rhys a'i wyneb coch a'r tusw byr o farfar ei ên, ei drowsus plad golau, a'r olwg arno yn debycach i ddyn newydd ddyfod o ben y mynydd nag i ysgolhaig a oedd yn fyd-enwog yn ei gangen ei hun a phennaeth un o golegau Rhydychen; Edward Anwyl yn dew ac afrosgo, er nad oedd ond dyn ieuanc, a rhyw olwg hanner pregethwrol arno; a