John Morris Jones yn edrych, fel bob amser, fel Indiad Coch a oedd wedi ffeirio ei blu a'i baent rhyfel am siwt wareiddedig ond ar yr un pryd yn edrych fel pe buasai wedi cysgu yn y siwt honno am rai nosweithiau. Yr oedd y tri yn wŷr nodedig eu golwg. Yr oedd penderfyniad a phendantrwydd yn amlwg yn John Rhys; yr oedd Anwyl ar y pryd mor dew nes rhoddi argraff arnoch mai dyn bodlon, braf ydoedd (ar ol iddo deneuo a gwaelu y gwelid pa mor lednais a theimladwy oedd llinellau ei wyneb); yr oedd John Morris-Jones yn tynnu eich sylw ar unwaith, yn enwedig pan dynnai ei het a phan welech y gwallt du, syth, yn disgyn yn sydyn ar draws un llygad. Ac yr oedd goleuni direidus yn y llygaid hynny weithiau.
A yw yr ieuanc yng Nghymru heddiw cyn llawned o obaith am ddyfodol yr iaith a'i llenyddiaeth, cyn llawned o ddiddordeb ymhopeth a berthyn iddynt ac mor ddiysgog eu ffydd yn nyfodol Cymru ag yr oedd llawer ohonom ni tua dechrau'r ganrif? Gobeithio eu bod, canys ni ellir gwneud dim heb ffydd a gobaith ac ynni; y maent yn bwysicach o lawer nag arian a phwyllgorau. Yr oedd llawer ohonom tua'r adeg honno yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud darganfyddiadau newydd yn ein gwlad ni ein hunain bob dydd. Yr oedd barddoniaeth Elfed, "Telynegion" Silyn Roberts a W. J. Gruffydd, "Ymadawiad Arthur" Gwynn Jones, "Homiliau" Emrys ap Iwan, storïau byr Dic Tryfan, "Telynegion Maes a Môr" Eifion Wyn, dramau Gwynfor, a llawer o bethau eraill yn peri i ni gredu fod oes aur ar wawrio ar Gymru. Yn y cylch gwleidyddol yr oedd Lloyd George yn myned a Chymru gydag ef i bob man; yn grefyddol yr oedd y diwygiad newydd ysgubo trwy'r wlad ac wedi peri i lawer un ynganu—a chanu—Cymraeg na bu yn gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac yr oedd eto bregethwyr mawr, meistriaid y gynulleidfa yn ol yr hen draddodiad, ar y maes. Prin y gallesid disgwyl i ni,