a oedd yn ddibrofiad, ganfod egin y digalondid a'r peryglon a oedd i ddyfod; yr oedd yr egin yno, y mae'n sicr, ond gobaith a diddordeb a chred yn y dyfodol a'n meddiannai ni, ac yr oedd presenoldeb John Morris-Jones yn elfen yn y gobaith hwnnw.
Yr hyn a wnaeth John Morris-Jones yn rym ym mywyd Cymru oedd ei feirniadaethau eisteddfodol. Nid wyf yn tybio fod amheuaeth am hynny. Wrth gwrs, bu ei ddylanwad ar ei efrydwyr ym Mangor yn fawr, ond bu aml athro coleg yn gymaint dylanwad ag yntau heb i'r wlad yn gyffredinol wybod hyd yn oed am ei enw. Rhydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddusrwydd heb ei fath i'r sawl a ddaw yn amlwg ynddi. Hyd yn oed heddiw gŵyr llu am feirdd a fydd wedi ennill y gadair neu'r goron genedlaethol, er iddynt beidio darllen llinell o'u gwaith. Caiff hyd yn oed awdur yr englyn buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol lawer o gyhoeddusrwydd, ac enillodd eraill gyhoeddusrwydd yn ei gysgod trwy feirniadu ei waith. A phan ddechreuodd yntau feirniadu'r awdlau yn yr Eisteddfod y daeth Morris-Jones yn adnabyddus led-led Cymru.
Yr oedd wedi dyfod i'r amlwg cyn hynny trwy ei ysgrifau yn dadlennu honiadau'r Orsedd, yn Cymru. Tynnodd y rhai hynny sylw mawr mewn rhai cylchoedd; cyn hynny nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn cofio bod dynion fel Dafydd Ddu Eryri ac eraill wedi rhoddi derbyniad oeraidd i ddychmygion rhyfedd Iolo Morgannwg ynghylch yr Orsedd a barddas. Yr oedd yn llai o drafferth derbyn y storïau am hynafiaeth yr Orsedd, fel y bu yn llai o drafferth derbyn yr hen stori am ddarganfyddiad yr America gan Fadog ap Owain Gwynedd na chwilio ei seiliau, ac erbyn i ysgrifau Morris-Jones ym-ddangos yr oedd pobl wedi dyfod i gredu fod Gorsedd y Beirdd yn ddarn o hen hanes Cymru. Tipyn o sioc i lawer oedd ei ddadleniadau ef, a bu rhai o aelodau blaenllaw yr