Orsedd yn hir iawn yn eu derbyn. Y mae'n debyg i Hwfa Môn fyned i'w fedd heb wneud hynny, ac am rai blynyddoedd bu lluchio at "geiliogod y colegau" oddiar y Maen Llôg yn hwyl fawr. Ond er hyn oll, nid yr ysgrifau hynny yn bennaf a wnaeth John Morris-Jones yn adnabyddus.
Dywedodd wrthyf ei fod unwaith, yng nghanol helynt ysgrifau'r Orsedd, ag yntau yn athro ym Mangor ers blynyddoedd, wedi mynd i le ar lan y môr yn sir Gaernarfon gyda chyfaill. Yno yr oedd bardd gwlad yn byw ac yr oedd cyfaill John Morris-Jones yn ei adnabod. Daeth i'w cyfarfod ar y traeth a chyflwynodd y cyfaill yr Athro iddo, "ond", meddai Morris-Jones wrth ddweud yr hanes, "'toedd o 'rioed wedi clywed sôn amdana' i, a 'doedd waeth heb geisio esbonio iddo fo". Cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd yr oedd pob bardd gwlad o Lanandras i Dy Ddewi wedi clywed sôn amdano ac yn ei ofni,—neu yn ceisio dysgu ganddo. Y beirniadaethau a roddodd y safle honno iddo.
Yr oedd safon y farddoniaeth eisteddfodol yn hynod o isel ers cenhedlaethau cyn dyddiau Morris-Jones. Bron na ddywedai dyn mai Elfed oedd yr unig lecyn golau, ac yn sicr ei farddoniaeth ef yw bron yr unig farddoniaeth o'r cyfnod hwnnw a ddeil i'w darllen heddiw. Ond os oedd y farddoniaeth yn sal a disafon yr oedd y feirniadaeth cyn saled a hithau. Y mae darllen rhai o'r beirniadaethau cyn dydd Morris-Jones yn peri i chwi deimlo eich bod yn symud mewn byd anhygoel bron, ac y mae gofyn eu darllen i sylweddoli pa mor od oedd y pethau a ddywedid mewn llawer ohonynt. Nid gormod dywedyd fod rhai o'r beirniaid yn gwbl anghymwys, heb wybodaeth am iaith na llenyddiaeth. Y mae'n anodd gwybod pa fodd y daeth Morris-Jones i mewn i'r cwmni; nid oedd, wrth gwrs, yn aelod o'r Orsedd, nac hyd yn oed yn fardd adnabyddus iawn. Ni enillodd na chadair na choron mewn eisteddfod; hyd y gwn i, ni bu erioed yn