ymgeisydd am y naill na'r llall. Y mae'n debyg fod teimlad o werth addysg ac ysgolheictod yn bod yng Nghymru tua'r cyfnod hwnnw a bod rhywun mwy beiddgar na'i gilydd wedi medru cael yr athro ieuanc o Fangor ar banel y beirniaid. A dyna droi'r drol.
Ni welais i ddechrau'r cyfnod newydd ond gwelais ddigon yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd i feddu syniad am yr helynt a'r cyfnewid. Clywais luchio fwy nag unwaith oddiar y Maen Llog at y ddysgeidiaeth newydd ynghylch yr iaith; yr oedd llawer o siarad ar draws ac ar hyd am "ddefnyddio hen eiriau", am "ganu fel y byddai y werin yn deall" a phethau felly, a chlywais un gŵr yn dadlau dros "farddoniaeth syml, ddealladwy fel eiddo Dewi Wyn"! Ond yr oedd John Morris-Jones yn myned ymlaen trwy'r cwbl, i gywiro iaith, i fynnu safonau llenyddol rhesymol, ac i geisio adfer y cysylltiad, a oedd bron iawn wedi torri, â'r traddodiad llenyddol Cymreig a oedd yn myned yn ôl fil o flynyddoedd.
Nid oedd dim, ymosodiadau na beirniadaeth na'i anwybyddu, yn ei droi oddiar ei lwybr. Nid nad oedd yn gwybod amdanynt. Yn hytrach, gwyddai yn dda iawn ac yr oedd bob amser yn barod i'w hateb. Atebai weithiau rai o'i feirniaid mwyaf anwybodus, a gwelwyd bai arno am wneud hynny. Yr oedd, meddid, yn gwastraffu ei amser a'i ynni i ysgrifennu llithoedd hir i'r papurau newydd i ateb hwn a'r llall ac i gywiro'r peth yma a'r peth arall. Unwaith gwnaeth cysodydd yn swyddfa'r Genedl gamgymeriad nad oeddwn i wedi sylwi arno wrth ddarllen y proflenni; rhoddodd "dau a'r bymtheg" yn lle "dau ar bymtheg". Ond gwelodd John Morris-Jones y gwall; tybiodd mai anwybodaeth yn y swyddfa oedd y rheswm, a chefais lythyr maith oddiwrtho, wedi ei ysgrifennu mewn pensel yn ei lawysgrif glir, brydferth, yn galw sylw at y peth, yn egluro rheol yr iaith ar y pwnc, ac yn datgan ei syndod a'i alar fod y fath anfadwaith yn bosibl!