Nid oedd hynny ond un enghraifft o'r hyn a wnai, ac y mae yn rhaid ei fod yn rhoddi llawer o amser i beth felly. Y gwir oedd ei fod trwy hynny yn addysgu gwlad ac yn cadarnhau sylfaen llenyddiaeth ac iaith Cymru. Yr oedd yn athro yn ystyr eangaf y gair.
Trwythwyd ef yn llenyddiaeth Cymru; dyna gefndir ei feddwl. Yn ystod eisteddfod Rhydaman, yn 1922, digwyddwn fod yn aros yn yr un tŷ ag ef, yn Llandeilo. Wynebai'r ystafell ar ddyffryn Tywi a'r bryniau tawel yr ochr draw. Trwy'r gwastad ar waelod y dyffryn yn union o dan y tŷ rhedai'r afon rhwng caeau ŷd a gweirgloddiau. Y noson gyntaf i ni fod yno cafwyd storm ffyrnig o fellt a tharanau am ychydig, ac yna, wedi i'r duwch glirio, daeth awyr ddigwmwl, dawel a chododd y lleuad fawr, felen, dros grib y bryniau a'i goleuni yn dawnsio ar fân-donnau Tywi. Yr oedd yn olygfa i'w chofio a safem ein dau yn y ffenestr i edrych arni. Ac yna dyna Syr John yn dechrau adrodd llinellau Dafydd Nanmor,—
Llety a gefais gerllaw teg afon,
Llawn o ddaioni a llawen ddynion,
ac ni allaf ddarllen y llinellau hynny heddiw heb glywed llais John Morris-Jones yn eu hadrodd a gweled y lleuad yn codi dros fryniau Sir Gaerfyrddin wyth mlynedd ar hugain yn ol.
Daeth yn ei ol o'r eisteddfod un hwyrnos y tro hwnnw wedi ei gythruddo braidd. Yr oedd Pedrog, meddai ef, wedi bod yn trin ar y beirdd ieuanc, gan ddweud eu bod yn ymosod ar rai o feirdd gorau Cymru, gan enwi Hiraethog.
"Ymosodais i erioed ar yr hen greadur", meddai Syr John yn gwynfannus braidd. "Fum i erioed yn son amdano fo!"
"John bach", meddai Lady Morris-Jones, patrwm o led-neisrwydd a doethineb cefn gwlad sir Fôn ar eu gorau," 'does neb yn meddwl eich bod chi'n fardd ifanc bellach!"