"Nac oes, mae'n debyg", meddai yntau gan edrych braidd yn syn. "Mae arna i ofn na ddaru mi ddim meddwl am hynny".
Son amdano yn adrodd barddoniaeth, yr oedd ei ddawn i wneud hynny yn cyfrif am ei boblogrwydd fel beirniad gyda thorf yr eisteddfod. Prin y buasai'r "werin a'r miloedd" yn gwrando mor eiddgar arno yn traethu ar feiau iaith ac yn cystwyo rhodres a diogi llenyddol oni buasai am y ddawn honno. Nid oedd yn siaradwr huawdl, na rhugl hyd yn oed, a chlywais rai yn dywedyd iddynt gael eu siomi yn ei ddarlith-iau. Ond yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gyfnod fel dywedwr barddoniaeth; medrai adrodd darnau lled faith o awdl nes swyno cynulleidfa aflonydd a diamynedd i wrando arno a disgwyl am ragor. Yr oedd tinc yn ei lais ac eglurder yn ei ynganiad a rhywbeth heintus, y mae'n anodd cael gair arall am y peth,—yn ei oslef a barai i chwi feddwl am yr hyn a glywsoch am yr hen bregethwyr. "Dawn Sir Fôn", meddai rhywun, ond y mae yn anodd deffinio honno. Y mae'n wir mai ym Môn y ganed Syr John ond yn Arfon yr oedd ei wreiddiau, fel John Elias, gŵr arall y cysylltir ei enw â Môn bob amser.
Beth bynnag am hynny, yr oedd y ddawn a'r oslef heintus yno. Unwaith, pan lywyddai yn eisteddfod Pentrefoelas, eisteddfod leol bwysig a phoblogaidd iawn, adroddodd, yn ystod ei araith o'r gadair, englyn Taliesin o Eifion,
Cymru lân, Cymru lonydd,—Cymru wen,
Cymru annwyl beunydd,
Cymru deg, cymer y dydd,
Gwlad y gân, gwel dy gynnydd.
ac ar ei ganol dechreuodd y gynulleidfa ei adrodd gydag ef. Gorffennodd Syr John a hwythau yr englyn gyda'i gilydd, er dirfawr foddhad iddo. Yr oedd yn ymhyfrydu mewn