Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

englynion da; clywais ef yn adrodd englynion Dewi Wyn i bont Menai ac yn troi at ei gynulleidfa wedyn ac yn dweud, "Tydyn nhw'n ardderchog?" Derbyniwyd llawer o addysg ramadegol ac o gyfarwyddiadau llenyddol pwysfawr yng nghysgod y ddawn ryfeddol honno.

Cyhuddid ef weithiau o fod yn bedant. Efallai fod peth sail i'r cyhuddiad, neu, dyweder, fod rhyw gymaint o bedantri yn rhwym o ddyfod i'r golwg ym meddwl dyn a oedd yn cysegru ei egni i adfer hen safonau gwych a gollwyd. Gor-fanylder felly, y mae'n debyg, a gyfrifai am geisio rhoddi "iechyd-wriaeth" yn lle ffurf fel "iachawdwriaeth" a oedd wedi hen ennill ei le ym mywyd yr iaith. Unwaith cefais gerydd ganddo am ddefnyddio'r gair "ffaith", er ei bod yn anodd gwybod pa air y gellid ei ddefnyddio yn ei le. Ond nid oedd pethau fel yna nac yma nac acw; nid oeddynt yn menu dim ar y gwasanaeth amhrisiadwy a wnaeth ef i Gymru. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol marw Syr John dywedodd Gwynn Jones, mewn llythyr ataf, "Syndod y newid a ddaeth rhag blaen ar ol marw Syr John Morris-Jones. Yn yr eisteddfodau daw safonau hanner can mlynedd yn ôl i'r golwg eto. Ceidwadwr oedd Syr John, y mae'n wir, ond yr oedd yn urddasol a manwl. Daeth yr adwaith—a'r anfadwaith". Yr oedd y golled i'w theimlo.

Ei gas at ffug ac at y pethau a oedd yn darostwng safonau clasurol llenyddol Cymru oedd yn cyfrif am ei elyniaeth at yr Orsedd. Y mae'n rhaid cofio beth oedd honiadau a safon Gorsedd y Beirdd pan ddechreuodd ef ei beirniadu i ddeall y peth yn iawn. Derbynid honiadau Iolo Morgannwg am ei hynafiaeth gan lawer, os nad gan y rhan fwyaf a feddyliai am y peth o gwbl, a rhoddid ei graddau anrhydeddus i fân—Saeson a phobl debyg adeg eisteddfod. Fel pasiant yr oedd yn chwerthinllyd, hyd yn oed mor ddiweddar a 1906 (y mae llun ar gael o orymdaith yr Orsedd adeg eisteddfod