Caernarfon yn y flwyddyn honno, ag amryw o'r beirdd yn eu mentyll a'u hetiau silc), ac eto credai llawer mai hi oedd yn cynrychioli barddoniaeth a llenyddiaeth Cymru. "Llygrodd Iolo ffynonellau hanes", meddai Morris Jones wrthyf unwaith, "a chymer fwy nag un oes i ddadwneud y drwg a wnaeth". Erbyn heddiw nid oes neb yn honni fod Gorsedd y Beirdd yn hŷn nag oes Iolo ei hun a chymer ei lle fel rhan o basiantri yr eisteddfod; i ymchwiliadau a dycnwch John Morris-Jones y mae'r iechyd hwnnw i'w briodoli i raddau pell. Ond gwnaeth ef rywbeth mwy o lawer na phrofi fod honiadau Iolo yn ddisail. Gydag Emrys ap Iwan, Owen Morgan Edwards ac un neu ddau arall achubodd iaith a thraddodiad llenyddol Cymru.
Wrth sôn am yr Orsedd, cofiaf am ddigwyddiad a barodd gryn lawer o ddifyrrwch i mi ar y pryd. Cydgerddwn â Syr John ar blatfform gorsaf Caer, yn disgwyl am dren i'r De ac i'r eisteddfod. Daeth gwraig garedig a oedd yn aelod selog o'r Orsedd atom ac wrth gerdded yn ol a blaen dechreuodd siarad yn huawdl am ardderchowgrwydd yr Orsedd fel sefydliad cenedlaethol. Gwawriodd arnaf nad oedd hi erioed wedi clywed am agwedd Syr John ar y pwnc ond y cymerai yn ganiataol ei fod mor frwdfrydig a hithau. Edrychais o gil fy llygaid ar Syr John. Pa beth a ddigwyddai tybed? Chwarae teg iddo, dioddefodd y cwbl yn ddistaw; ni anghytunodd ac ni ddadrithiodd y wraig frwdfrydig. Y mae'n ddiamau iddi fyned i'w ffordd gan gredu'n sicr iddi fod yng nghwmni Gorseddwyr selog, ond braidd yn dawedog, efallai.
Byddai Syr John yn myned yn rhy bell weithiau wrth ddelio â beirniadaeth neu wrthwynebiad. Byddai yn bur groendenau dan ambell fath o feirniadaeth ac nid da ganddo wrthwynebiad, yn enwedig yn ei flynyddoedd olaf. Ond dylid edrych ar y ddwy ochr a chofio am y feirniadaeth a