Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fu arno yntau. Yr oedd peth o'r feirniadaeth honno yn deg, yn feirniadaeth ysgolheigion a oedd yn gwahaniaethu ar dir gwybodaeth ac ymchwil. Ond yr oedd math arall o feirniadaeth yng Nghymru ar y pryd, yr ymosod ar "yr Ysgol Newydd" a phethau felly, llais cras yr hen anwybodaeth a'r hen geidwadaeth a oedd yn casáu'r goleuni. Os try neb i ddadl englyn "Blodau'r grug" a helynt Ffordd Ddeiniol yn Y Genedl tua 1906 a 1907 ceir syniad am yr hyn oedd yn digwydd. Yr oedd yntau yn barod iawn—yn rhy barod, hwyrach—i daro yn ol ac i ddefnyddio ymadroddion megis "baldordd gorffwyll" a phethau o'r fath. Hyd yn oed pan. fyddai'r pechadur wedi marw ers cenedlaethau byddai yn rhaid iddo ddioddef y gosb—"yr hen Rowlands benwan" meddai am awdur y "Mona Antiqua", a Henry Rowlands druan yn ei fedd ers mwy na dau gant o flynyddoedd.

Ar y llaw arall yr oedd ei lle i'r gyneddf yma yng Nghymru ar y pryd. Yr oedd angen taro weithiau, ac ambell dro gwnai yntau hynny yn ddeheuig ddigon. Medrai fod yn gyrhaeddgar iawn yn ei feirniadaethau; byddai un gair yn yr oslef hir, leddf honno yn ddigon weithiau. Cofiaf amdano unwaith yn enwi ffugenw un ymgeisydd anffodus ac yn ychwanegu, gyda rhyw lusgiad ac hanner—atal ar y gair, "Di-obaith!" A dyna'r cwbl. Ond yr oedd yn ddigon.

Diogi oedd y pechod llenyddol y byddai yn anodd ganddo ef ei faddau. Diogi yn ei farn ef, oedd y rheswm paham yr oedd llawer yn ysgrifennu Cymraeg anghywir; diogi oedd yn cyfrif paham yr oedd dynion yn canu yn aneglur, gan ddisgwyl i eraill drafferthu i chwilio am ystyr yn yr hyn a ddywedant. "Ni chymer neb y drafferth", meddai yntau. "Y mae rhyw ddiffyg cydwybod lenyddol ar ——", meddai un tro, wrth sôn am ŵr adnabyddus.