"Tybed?" meddwn innau mewn syndod. "Tydi o erioed yn dwyn syniadau na dim arall oddiar neb".
"Nac ydi, wrth gwrs", meddai yntau yn ddiamynedd, "ond y mae o'n ysigo geiriau at ei iws ac mi wna wall mewn gramadeg os bydd hynny yn i siwtio fo". Ac yr oedd peth felly yn drosedd.
Ychydig iawn a soniai am ei waith ei hun fel bardd, ond yr wyf yn tybio fod ganddo feddwl go uchel o'i "Omar". Yr oedd ganddo bob hawl i feddwl yn dda o'r gwaith hwnnw, gwaith a ddeil i'w ddarllen o hyd. Ac fel y treigla amser gwelir, mi gredaf, fod rhannau o farddoniaeth Syr John Morris-Jones wedi dyfod yn rhannau o ymadroddion yr iaith erbyn hyn. Barddoniaeth dyn ieuanc ydyw y rhan fwyaf ohoni, dyn ieuanc yn gwneud y darganfyddiadau newydd y rhoddir i bawb ohonom eu gwneud yn ein tro. Meddai ef hefyd y ddawn i gyfleu rhywbeth, beth bynnag, o swyn a rhyfeddod y darganfyddiadau hynny i eraill. Y mae ei ryddiaith yn batrwm o eglurder.
Y mae'n debyg iddo gael ei siomi pan na phenodwyd ef yn Brifathro Bangor i ddilyn Syr Harry Reichel. I Gymru gyfan y tuallan i gylch y Brifysgol y mae'n bosibl mai ef oedd aelod amlycaf staff y coleg a thybiai llawer mai ef a benodid. Ar yr ochr arall dywedid mai prin oedd ei ddiddordeb yn ochr weinyddol gwaith y coleg ac na chymerodd erioed ran flaenllaw iawn ynddo. Gwn fod dwy farn ar y pwnc ar y pryd, ond ni pherthyn i mi eu trafod yma. Ni wyddwn ond ychydig iawn amdano yn y cysylltiadau hynny. Buom yn groes i'n gilydd unwaith ar fater gwleidyddol; yr oedd ef yn edmygydd mawr, mawr iawn, o Lloyd George[1], ac yr oedd
- ↑ Wrth gyflwyno Lloyd George am radd anrhydedd yn 1908 dywedodd Morris-Jones: "Fe syll Cymru ar ei esgyniad