Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

papurau'r "Genedl", yr oeddwn yn eu golygu ar y pryd, yn beirniadu polisi Lloyd George fel Prif Weinidog y Llywodraeth Goalisiwn. Ysgrifennodd Morris-Jones yn llym ataf ynghylch hyn; yr oedd, meddai, yn chwith gweled Cymro yn ochri gyda chlymblaid o Saeson yn erbyn ei gydwladwr. Bu cryn lawer o ddadlau rhyngom; credai ef fod teimlad personol yn erbyn Lloyd George yn dyfod i mewn a theimlwn innau fod Lloyd George yn medru hud-ddenu pobl fel ef i'w gefnogi yn gwbl anfeirniadol.

Pan ddeallais, yn 1922, ein bod i aros o dan yr un gronglwyd yn ystod wythnos yr eisteddfod dyfalwn sut y byddai pethau, a ninnau heb gyfarfod ar ol yr ohebiaeth. Ond ni bu sôn am y llythyrau nac am wleidyddiaeth a chefais wythnos ddiddorol iawn yn ei gwmni. Credaf ein bod yn well cyfeillion ar ei diwedd nag oeddem ar y dechrau. Pan ysgrifennai mewn dadl yr oedd y gair garw ymlaen ganddo yn aml; er enghraifft, ar ddechrau un o'r llythyrau y soniwyd amdanynt dywedodd: "Nid oeddwn wedi meddwl ysgrifennu'n gas; ond y mae arnaf ofn wrth eich atebiad eich bod chwi wedi darllen fy llythyr felly". Mewn gwirionedd, gŵr mwyn a charedig oedd. [1]

  1. ↑ yn llawen, nid yn drist. Nid yw ef yn llai iddi hi am ei fod yn fwy i'r ymerodraeth. Y mae Cymru hefyd yn rhan o'r ymerodraeth, ac wedi gwneuthur ei rhan i'w saernio. Ni chyll Cymru mo'i hanes ef; fe'i trysorir ganddi fel aur, ac fe erys yn galondid ac yn ysbrydoliaeth i'w meibion dros byth. Os swynodd ef y Saeson â chyfaredd ei lais arian, nid anghofiodd iaith ei fam, yr iaith y dysgodd lefaru ynddi, ar ei enau mor ddilediaith ag erioed y mae 'sain y ber heniaith sy yn y bryniau'. Os rhoddes Prydain ei gwobrau iddo, a'i thrysor dan ei ofal, ni ddwg neb mo'i galon oddiar Gymru, ac ni phaid hithau â llawenychu ynddo ef".